Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-0 Halifax
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Wrecsam fodloni ar bwynt yn unig gartre yn erbyn Halifax mewn gêm oedd yn brin iawn o gyfleoedd.
Aeth ciciau rhydd Luke Young a Jordan Davies dros y trawst i'r cochion.
Luke Summerfield, cyn chwaraewr Wrecsam, ddaeth agosaf i Halifax gyda'i ergyd yn hwyr yn y gêm.
Golygai'r canlyniad fod Wrecsam yn symud i'r unfed safle ar ddeg yn y Gynghrair Genedlaethol, un pwynt o'r safleoedd ar gyfer y gemau ailgyfle.