Troi merched 'anhygoel' y gorffennol yn ffilmiau byrion
- Cyhoeddwyd
Mae hanes rhai o ferched y gorffennol wedi cael ei godi o'r archifdy a'i drawsnewid yn ffilmiau byrion fel rhan o brosiect rhanbarthol yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Ar y cyd â Theatr Clwyd, mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru wedi creu cyfres o bedair monolog wedi eu seilio ar fywydau rhai o fenywod y cylch, dolen allanol dros y 200 mlynedd diwethaf.
Yn eu plith mae profiadau gwraig weddw a gollodd ei gŵr yn nhrychineb Gresffordd, a hanes Ann, dynes a gafodd ei gyrru i ysbyty meddwl.
Nod y fenter yw tynnu sylw at gyfoethogrwydd deunydd yr archifau.
Ffynhonnell o straeon
Mae'r gwasanaeth archifau yn gyfuniad o gasgliadau siroedd Dinbych a'r Fflint, ac wedi ei lleoli yn Rhuthun a Phenarlâg.
Yn ôl yr archifydd, Sarah Roberts, mae ffilmiau prosiect Ailddarganfod Merched yn dangos cymaint sydd 'na i'w weld yn y casgliadau, a sut mae modd ei ddefnyddio yn y celfyddydau.
"Dwi'n gobeithio mai dyma ddechrau perthynas dda rhyngom ni a'r theatr, ac y byddwn yn gwneud mwy o hyn yn y dyfodol," meddai.
"'Dan ni'n gweld ein hunain fel ffynhonnell o straeon sydd ddim wir wedi cael ei defnyddio eto gan ysgrifenwyr, cyfarwyddwyr a phobl eraill yn y diwydiannau creadigol."
Y straeon
Yr enwog Marged ferch Ifan - heliwr, reslwr, cerddor a thestun straeon yr awdur Thomas Pennant;
Profiadau gwraig weddw a gollodd ei gŵr yn nhrychineb glofa Gresffordd yn 1934;
Myfyrdodau pennaeth ysgol ar ei bywyd a'i hymrwymiad i addysg;
Ann Owen, dynes o'r 19eg ganrif a gafodd ei gyrru am driniaeth am seicosis yn ysbyty meddwl Dinbych, yn fuan wedi geni plentyn.
Roedd Eleri B. Jones, cyfarwyddwr y ffilmiau, wedi "gwirioni" gyda'r hyn oedd yn y casgliadau.
"Dwi'n hoff iawn o edrych yn ôl er mwyn mynd ymlaen - i weld be' allwn ni ei basio 'mlaen i fywyd heddiw," meddai.
"Cofnodion gan ddynion yw llawer o hanes, yn ogystal â'r bonedd, oedd â'r amser a'r gallu i ysgrifennu eu straeon.
"Dwi'n teimlo bod 'na wagle mawr o ran hanes pobl o'r dosbarth gweithiol, oedd yr un mor anhygoel yn eu ffordd eu hunain."
Mae'r monologau, gafodd eu sgriptio gan Emyr John, yn cael eu rhyddhau fesul un ar gyfrif YouTube Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru, dolen allanol bob dydd Llun. Cyhoeddwyd tri fideo yn barod.
Yn y cyfamser, mae cais i ariannu cynllun i uno'r casgliadau o Ruthun a Phenarlâg mewn adeilad pwrpasol newydd yn Yr Wyddgrug yn cael ei ystyried ar hyn o bryd gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2019