Rhybudd am fwy o eira a rhew i ddod ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd
Eira yn ardal Rhosfach yng ngogledd Sir Benfro
Disgrifiad o’r llun,

Eira yn ardal Rhosfach yng ngogledd Sir Benfro ddydd Sul

Fe allai eira achosi mwy o drafferthion i rannau o Gymru ddydd Sul, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae wedi cyhoeddi rhybudd tywydd ar gyfer hyd at 5cm o eira sy'n effeithio ar dir uwch yn 13 o Gymru 22 sir tan 18:00.

Mae rhybudd eira dydd Sul yn cynnwys Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Thorfaen.

Codwyd rhybudd ar wahân am amodau rhewllyd ddydd Sul am 11:00.

Bu'n rhaid i ddwy ganolfan frechu yn Abercynon a Merthyr Tudful gau ddydd Sadwrn o ganlyniad i'r eira.

Ond byddan nhw'n ailagor ddydd Sul, yn ôl Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Cafodd uned brofi Covid-19 yn Llangollen hefyd ei chau am weddill y dydd.

Disgrifiad o’r llun,

Eira ym mhentref Llanferres ar yr A494 rhwng Rhuthun a'r Wyddgrug

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod eira a rhew wedi achosi amodau anodd ar rai ffyrdd yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint ddydd Sadwrn.

Cafodd apwyntiadau brechu rhag Covid oedd wedi'u trefnu yng nghanolfannau brechu Powys ddydd Sadwrn eu cynnal ddiwrnod yn gynnar yn lle.

Roedd trafferthion ar y ffyrdd hefyd mewn rhai mannau o'r gogledd-ddwyrain a'r de-orllewin yn dilyn rhybudd melyn am eira, a ddaeth i ben am 18:00 ddydd Sadwrn.

Dyma'r ail benwythnos yn olynol i eira achosi trafferthion.

Y penwythnos diwethaf, bu'n rhaid i bedair canolfan frechu gau dros dro yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn sgil yr eira.

Awgrymodd Llywodraeth Cymru fod hynny wedi bod yn ffactor wedi iddyn nhw fethu â chyrraedd carreg filltir gyntaf y rhaglen frechu.

Rhai yn torri'r rheolau teithio

Yn y cyfamser, er gwaetha'r tywydd ac yn groes i gyfyngiadau coronafeirws, dywedodd yr heddlu ddydd Sadwrn bod rhai pobl wedi teithio o ardaloedd mor bell i ffwrdd â Llundain i'r Wyddfa yn yr eira.

Ar Twitter, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru y byddai ymwelwyr sy'n teithio o bell tra bod Cymru yn dal i fod o dan gyfyngiadau Lefel 4 yn cael dirwy.

Ffynhonnell y llun, @NWPRuralCrime
Disgrifiad o’r llun,

Yr heddlu ar waith tu allan i'r Wyddgrug

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi rhoi wyth dirwy i un grŵp o bobl oedd wedi stopio ym Merthyr ar y ffordd yn ôl i Gaerdydd o Fannau Brycheiniog.

Yn ôl cyfyngiadau Lefel 4 Llywodraeth Cymru, ni ddylai pobl deithio o'u tai heblaw ei fod yn hanfodol.

Mae ffordd Ystradgynlais, Abertawe, wedi cau tan 5 Chwefror tra bod Cyngor Sir Powys yn gwneud gwaith brys i drwsio gollyngiad dŵr sy'n troi i rew yn y tywydd oer.

Pynciau cysylltiedig