Corff dyn wedi ei ddarganfod yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yng Nghaerdydd yn ymchwilio i farwolaeth anesboniadwy dyn.
Cafodd corff y dyn - sydd yn ei 20au neu 30au - ei ddarganfod ar Westville Street yn ardal Penylan o'r ddinas ychydig cyn hanner nos nos Iau (28 Ionawr).
Mae'r heddlu wedi cau rhan o'r stryd i ffwrdd ac mae ymchwiliadau'n parhau.
Maen nhw'n apelio am wybodaeth gan unrhyw un all fod o gymorth i'r ymchwiliad, ac yn gofyn i bobl ffonio ar 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.