Ymchwilio i ymadawiad swyddog cyngor a thaliad £95,000
- Cyhoeddwyd
Mae archwilwyr yn ymchwilio i'r amgylchiadau arweiniodd at brif weithredwr cyngor sir yn gadael ei swydd gyda thaliad o £95,000.
Dywedodd Archwilio Cymru ei bod wedi dechrau ymchwiliad i ymadawiad Ian Westley o Gyngor Sir Penfro, a'r setliad ariannol gan yr awdurdod.
Gadawodd ei swydd fis Tachwedd 2020, gyda rhai cynghorwyr yn honni bod hynny oherwydd perthynas wael gydag aelodau'r cabinet.
Dywedodd Cyngor Sir Penfro ar y pryd ei bod wedi dod i gytundeb gyda Mr Westley dros adael.
Cafodd Mr Westley, 60, ei benodi'n brif weithredwr ym mis Gorffennaf 2015 ar ôl gweithio i'r cyngor mewn sawl rôl ers 2003.
Wrth gyhoeddi ei ymadawiad yn 2020, dywedodd bod "yr amser yn iawn i symud ymlaen a gadael i arweinyddiaeth newydd adeiladu ar y seiliau cadarn sydd mewn lle".
Nid oedd Archwilio Cymru am wneud sylw pellach tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2020
- Cyhoeddwyd2 Medi 2020