Pro14: Scarlets 25-52 Leinster
- Cyhoeddwyd
Fe gollodd y Scarlets yn drwm gartref i Leinster nos Sadwrn, wrth i'r Gwyddelod ddychwelyd i frig Adran A.
Sgoriodd yr ymwelwyr saith cais yn Llanelli, gyda'r maswr Harry Byrne yn ychwanegu 15 pwynt gyda'i droed.
Dane Blacker, Will Homer ac Angus O'Brien sgoriodd ceisiau'r tîm cartref, gyda'r maswr ifanc Sam Costelow yn cicio gweddill y pwyntiau.
Roedd y ddwy ochr yn gweld eisiau chwaraewyr rhyngwladol cyn penwythnos agoriadol y Chwe Gwlad, gydag 11 o'r Scarlets i ffwrdd gyda charfan Cymru ac 16 o chwaraewyr Leinster gydag Iwerddon.
Aeth y gêm yn ei blaen er gwaethaf chwaraewr o dalaith Iwerddon yn profi'n bositif i Covid-19.
Dyma drydedd golled y Scarlets o'r bron, ac maen nhw'n aros yn y pedwerydd safle yn Adran B.
Scarlets: Johnny McNicholl; Tom Prydie, Tyler Morgan, Steff Hughes (capt), Ryan Conbeer; Sam Costelow, Dane Blacker; Phil Price, Marc Jones, Javan Sebastian, Morgan Jones, Sam Lousi, Blade Thomson, Dan Davis, Uzair Cassiem.
Eilyddion: Taylor Davies, Kemsley Mathias, Werner Kruger, Tevita Ratuva, Carwyn Tuipulotu, Will Homer, Angus O'Brien, Paul Asquith.
Leinster: Max O'Reilly; Cian Kelleher, Liam Turner, Ciaran Frawley, Dave Kearney; Harry Byrne, Luke McGrath (capt); Peter Dooley, James Tracy, Tadhg Furlong, Ross Molony, Ryan Bair, Josh Murphy, Dan Leavy, Jack Conan.
Eilyddion: Sean Cronin, Ed Byrne, Tom Clarkson, Jack Dunne, Scott Fardy, Hugh O'Sullivan, David Hawkshaw, Jamie Osborne.