'Dwi ddim yn teimlo yn ddiogel wrth ymarfer'
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o athletwyr benywaidd wedi dioddef ymosodiadau geiriol gan ddieithriaid wrth iddynt ymarfer mewn mannau cyhoeddus.
Fel rheol, mae'r athletwyr yn ymarfer ar draciau penodol, ond mae'r lleoliadau yna wedi bod ynghau oherwydd cyfyngiadau coronafeirws.
Dywedodd y cyn-bencampwr 400m, Rhiannon Linington-Payne fod y math yma o ymddygiad yn debycach i harasio yn hytrach na thynnu coes.
Yn ôl yr athletwraig 29 oed o Gaerdydd roedd yr iaith yn aml yn anweddus neu yn israddol tuag at fenywod.
"Rwyf wedi clywed sylwadau amhriodol am fy siâp, chwibanu a cheir yn arafu lawr er mwyn syllu... rwyf hyd yn oed wedi cael can o gwrw wedi ei daflu ataf," meddai.
"Y mwy mae'n digwydd, y mwy mae hyn yn blino rhywun."
Ar hyn o bryd dim ond unigolion sy'n cael eu hystyried yn athletwyr elît gan Chwaraeon Cymru, ac yn rhan o'r paratoadau ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, sy'n cael hyfforddi yn y lleoliadau penodol.
Golygai hyn fod rhai athletwyr sydd wedi cynrychioli eu gwlad ar lefel uchel yn gorfod hyfforddi adref, neu ar lonydd neu barciau.
"Mae'n eithaf eironig...dwi ddim yn cael mynd ar drac oherwydd rhesymau diogelwch, ond dwi ddim yn teimlo'n ddiogel wrth hyfforddi nawr," meddai'r wibwraig Hannah Brier, sydd wedi cynrychioli Cymru a Phrydain.
Dywedodd y fenyw 22 oed o Gastell-nedd, fod un digwyddiad wedi gwneud iddi deimlo mewn peryg, wrth i ddyn yrru heibio iddi nifer o weithiau gan weiddi a syllu.
Erbyn hyn, meddai, mae hi'n trio gwisgo mewn dillad llac a mwy plaen er mwyn osgoi tynnu sylw.
Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Llywodraeth Cymru lacio cyfyngiadau er mwyn caniatáu i unigolion gwrdd ag un person arall yn lleol er mwyn gallu gwneud ymarfer corff.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod y penderfyniad yn "rhannol" oherwydd fod menywod yn poeni "nad ydynt yn teimlo yn ddiogel wrth fynd allan ar ben eu hunain yn ystod nosweithiau oer a thywyll Ionawr".
Yn 2017 fe wnaeth arolwg gan Athletau Lloegr ganfod fod un o bob tri o athletwyr benywaidd yn teimlo eu bod wedi cael eu harasio tra allan yn rhedeg.
Dywedodd Lauren Williams, rhedwr dros y clwydi o Lanidloes, Powys, ei bod wedi cael profiadau annifyr wrth hyfforddi mewn mannau cyhoeddus.
"Dwi erioed wedi teimlo yn anniogel wrth ymarfer ond yn ddiweddar mae hynny wedi digwydd," meddai'r rhedwraig 21 oed.
Cred Rhiannon Linington-Payne fod angen newid diwylliannol i roi stop ar y math yma o ymddygiad.
"Mae'n fater ehangach na chwaraeon yn unig," ychwanegodd.
"Mae'n fater o barch at bobl eraill, a dwi'n synnu fod yna bobl sy'n dal i gredu ei bod yn briodol i siarad â rhywun arall yn y modd yna."
Mewn datganiad, dywedodd James Williams, prif weithredwr Athletau Cymru, fod y corff yn hybu , "parch, agosatrwydd a hwyl" ac y dylai bawb fod yn gallu mwynhau "chwaraeon mewn modd diogel a chynhwysol".
Yn ddiweddar, mae'r sefydliad wedi dechrau cydweithio gyda Heddlu'r De i daclo ymddygiad bygythiol a sylwadau trahaus.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd17 Mai 2018