Rygbi Cymru yn derbyn £13.5m o grant gan y llywodraeth

  • Cyhoeddwyd
Wales v France in the Six Nations in February 2020 was the last time the Principality Stadium was fullFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y tro diwethaf i Stadiwm y Principality fod yn llawn oedd gêm Cymru yn erbyn Ffrainc yn Chwefror 2020

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £17.7m o arian i helpu'r campau hynny sydd wedi colli incwm oherwydd nad yw cefnogwyr yn gallu mynchu gemau yn sgil Covid-19.

Bydd yr arian yn cael ei roi i'r cyrff cenedlaethol sy'n gyfrifol am y chwaraeon.

Bydd y rhan fwyaf o'r arian yn cael ei roi i'r byd rygbi (£13.5m) a bydd pêl-droed Cymru yn derbyn £1.5m.

Mae'r gweddill yn cael ei rannu rhwng rasio ceffylau (£1.2m), criced (£1m), hoci iâ (£200,000), rygbi'r gynghrair (£200,000) a phêl rwyd (£100,000).

Gan nad oes arwyddion y bydd torfeydd yn dychwelyd yn fuan mae'r grantiau yn cael eu rhoi er mwyn darparu cymorth ariannol buan i chwaraeon drwy weddill cyfnod y gaeaf - gyda phob camp yn derbyn swm cyfatebol i'r colledion y mae wedi'u hwynebu.

'Chwaraeon yn dda i'r meddwl a'r corff'

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Er bod cyfyngiadau ar gefnogwyr mewn digwyddiadau wedi bod yn hanfodol er mwyn atal y feirws rhag lledaenu ac achub bywydau, does dim dwywaith eu bod wedi creu caledi gwirioneddol i lawer o glybiau chwaraeon.

"Mae llawer ohonyn nhw'n cael cyfran sylweddol o'u hincwm drwy bresenoldeb gwylwyr.

"Mae chwaraeon yn sector pwysig o'n heconomi ac yn cael effaith gadarnhaol ar ein lles meddyliol a chorfforol. Mae digwyddiadau chwaraeon yn gyfleoedd pwysig i rannu profiadau, ac yn aml, maen nhw wedi tynnu'n sylw oddi ar y pandemig mewn ffordd dderbyniol iawn.

"Byddan nhw'n chwarae rhan hanfodol wrth gynnig adferiad ac iachâd inni ar ôl yr argyfwng.

"Rwy'n gwybod y bydd yr arian hwn yn rhoi rhywfaint o sefydlogrwydd i'r chwaraeon hynny yr effeithiwyd arnyn nhw waethaf yn sgil colli refeniw yn ystod y pandemig, gan helpu i bontio'r bwlch ariannol nes bod gwylwyr yn gallu dychwelyd yn ddiogel."

Eisoes mae'r byd chwaraeon wedi derbyn cyllid gwerth £22m drwy Chwaraeon Cymru ond roedd yr arian hwnnw i chwaraeon ar lefel is.

Roedd prif weithredwr Gleision Caerdydd, Richard Holland a phrif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, ymhlith y rhai a oedd wedi galw am gymorth ariannol.

Daeth cais Richard Holland wedi i'r byd chwaraeon yn Lloegr gael cymorth gan gynnwys £135m i rygbi'r undeb.

'Angen mwy o arian'

Y byd rygbi sydd wedi derbyn y mwyaf o arian gan fod hynny yn adlewyrchu colledion y pedwar rhanbarth.

Bydd angen mwy o gymorth ariannol ar Undeb Rygbi Cymru wedi i'r prif weithredwr Steve Phillips ddweud ym mis Rhagfyr 2020 bod yr undeb wedi derbyn rhwng £30m-£40m yn llai o gyllid yn sgil y pandemig.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y byd rygbi sydd wedi derbyn y mwyaf o arian gan fod hynny yn adlewyrchu colledion y pedwar rhanbarth

Roedd yna £5.3m o golledion i'r Undeb yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf ond mae'r sefyllfa bellach yn waeth gan na fydd torf yn cael mynd i weld y gemau yn erbyn Iwerddon a Lloegr yn Chwefror 2021.

Fe fydd hynny yn golled o £14m o incwm ac mae hynny ar ben y swm o £35m na chafwyd yng ngemau'r hydref.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cei Connah yw pencampwyr presennol Uwch-gynghrair Cymru

Dywed Llywodraeth Cymru bod y clybiau pêl-droed yng Nghymru wedi cael eu trin yn debyg i rai Lloegr a bod rhai o'r clybiau hynny wedi sicrhau cyllid o ffynonellau eraill.

'Mwy o sefydlogrwydd'

Dywedodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans: "Mae'r pecyn cymorth a gyhoeddwyd gennym heddiw yn mynd â chyfanswm y cyllid ar gyfer y sector hwn i fwy na £40m ers dechrau'r argyfwng, gan helpu i gynnig sefydlogrwydd yn y tymor hwy i sector sydd wedi dioddef colled ariannol sylweddol."