Penodi Mared Edwards o Fôn fel llywydd newydd yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi mai Mared Edwards o Borth Swtan, Ynys Môn, fydd llywydd y mudiad am y ddwy flynedd nesaf.
Mae Mared yn astudio Cymraeg a Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd.
Bu'n llysgennad yr Urdd yn Ysgol Uwchradd Bodedern ac yn gadeirydd Fforwm Ieuenctid Ynys Môn, a chafodd ei hethol yn is gadeirydd Bwrdd Syr IfanC yn 2018.
Bu hefyd yn gweithio fel swyddog ieuenctid yr Urdd yng Ngheredigion nes i'r pandemig daro, ac mae hi hefyd wedi bod yn is-lywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth am y ddwy flynedd ddiwethaf.
Mae Mared yn olynu Ethan Williams o'r Beddau ger Pontypridd fel llywydd yr Urdd.
'Gwireddu breuddwyd'
"Mae bod yn Llywydd yr Urdd wedi bod yn uchelgais gen i ers rhai blynyddoedd bellach, felly dw i'n gwireddu breuddwyd mewn gwirionedd," meddai Mared.
"Mae'r Urdd wedi ac yn dal i chwarae rhan hollbwysig yn fy mywyd i, a chynnig cyfleoedd di-ben-draw - o berfformio a chystadlu mewn amryw eisteddfodau a chystadlaethau chwaraeon i brofiadau gwaith amhrisiadwy, gan gynnwys staffio teithiau i Wersylloedd yr Urdd, a thramor i Baris.
"Fel aelod o'r Urdd dw i wedi cael y cyfle i fod yn rhan o gast Les Miserables yn 2015, teithio i'r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon a bod yn un o 25 person ifanc o Gymru aeth ar daith arbennig i Batagonia yn 2017.
"Mae fy nyled i'r mudiad yn fawr."
'Teimlo perchnogaeth dros yr iaith'
Dywedodd Mared mai ei gobaith yn ystod ei dwy flynedd fel llywydd ydy sicrhau bod pobl ifanc yn "teimlo perchnogaeth dros yr iaith Gymraeg" trwy ymwneud â'r Urdd.
"Fedraf i ddim disgwyl i weld beth ddaw dros y ddwy flynedd nesa - dyma gyfle i mi roi yn ôl i'r Urdd," meddai.
"Dw i am ganolbwyntio ar sicrhau fod plant a phobl ifanc Cymru yn teimlo perchnogaeth dros yr iaith Gymraeg a'i thraddodiadau drwy ymwneud â'r Urdd, yn ogystal â helpu'r mudiad i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2020