Gohirio Eisteddfod yr Urdd 2021 am flwyddyn arall

  • Cyhoeddwyd
Eisteddfod Yr Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eisteddfod yr Urdd eleni ei gohirio oherwydd y pandemig

Mae'r Urdd wedi cyhoeddi na fydd Eisteddfod yr Urdd 2021, oedd fod i gael ei chynnal yn Sir Ddinbych, yn mynd yn ei blaen oherwydd sefyllfa coronafeirws.

Dywedodd yr Urdd ei fod wedi gwneud y penderfyniad "er mwyn gwarchod iechyd a lles aelodau, gwirfoddolwyr a swyddogion yr Urdd yn ogystal â'r cyhoedd".

Cafodd yr ŵyl ei gohirio eleni oherwydd y pandemig, ac yn hytrach cafodd Eisteddfod T ei chynnal lle'r oedd plant yn cystadlu o adref.

Dyma oedd y tro cyntaf i'r mudiad gynnal prifwyl gyfan yn ddigidol, ac fe wnaeth dros 7,000 o gystadleuwyr gymryd rhan mewn cystadlaethau traddodiadol fel corau a chanu cerdd dant, yn ogystal â nifer o gystadlaethau newydd fel lip sync, dynwared a sgetsys i'r teulu i gyd.

Gobaith y mudiad ydy "cynnal Eisteddfod T fwy blaengar fyth yn ystod hanner tymor y Sulgwyn 2021".

'Dim dewis arall'

Y bwriad bellach yw cynnal Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yn 2022 - dwy flynedd yn hwyrach na'r disgwyl.

Bydd Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin yn symud i 2023, ac Eisteddfod yr Urdd Maldwyn i 2024.

Dywedodd cyfarwyddwr dros dro yr Eisteddfod, Siân Eirian: "Nid oedd y penderfyniad i ohirio'r Eisteddfod am flwyddyn arall yn un hawdd.

"Ond yn anffodus, o ystyried y sefyllfa sydd ohoni, roeddem yn teimlo nad oedd unrhyw ddewis arall.

"O dan amgylchiadau arferol, byddai ysgolion, adrannau ac aelwydydd ynghyd ag unigolion yn paratoi'n ddiwyd ar gyfer Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth yn fuan iawn yn y flwyddyn newydd, ond mae'r cyfyngiadau presennol yn ei gwneud yn anodd iawn i bawb drefnu ymarferion ar gyfer yr Eisteddfodau - heb sôn am eu cynnal."

Ffynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eisteddfod T yn chwarae ar eiriau a'r syniad o 'ti' a 'tŷ'

Ychwanegodd Ms Eirian: "Rhaid blaengynllunio a gwneud y penderfyniad mor fuan â phosib, er mwyn ein cystadleuwyr a'u hathrawon ond hefyd oherwydd y gwaith trefnu a chytundebu gyda'r holl randdeiliad a chwmnïau sy'n rhan allweddol o gynllunio a gosod yr Ŵyl flynyddol.

"Rwy'n llwyr ymwybodol gymaint o siom fydd cyhoeddiad heddiw i griw gweithgar o wirfoddolwyr Sir Ddinbych, heb sôn am y plant a phobl ifanc oedd yn edrych ymlaen at gael dychwelyd i gystadlu ar lwyfannau'r brifwyl.

"Gan obeithio y bydd amgylchiadau yn caniatáu, edrychwn ymlaen at gael croesawu'r Eisteddfod i Ddinbych yn 2022, sef blwyddyn canmlwyddiant yr Urdd - fydd yn gwneud yr achlysur yn fwy arbennig byth."

Ar raglen y Post Cyntaf, ychwanegodd bod y sefyllfa wedi cael effaith ar aelodaeth y mudiad: "Yn naturiol mae aelodaeth yr Urdd wedi gostwng, dydyn ni fel mudiad ddim yn cuddio hynny, ond mi fydd yna gyfleoedd yn y flwyddyn sydd i ddod a chyfle i bobl ymaelodi yn sgil hynny.

"Mae'r adran chwaraeon, yr Eisteddfod a'r maes yn cynnal digwyddiadau rheolaidd a ryda'n ni yn cysylltu efo'n hysgolion a'n hadrannau gyda'r wybodaeth yma."

Penderfyniad y Brifwyl 'dechrau'r flwyddyn'

Wrth ymateb, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol y byddai'n penderfynu ar yr ŵyl honno yn y flwyddyn newydd.

Dywedodd Betsan Moses: "Ni mewn trafodaethau wythnosol gyda'r llywodraeth i gael gweld beth yw hynt a helynt y brechlyn felly bydd rhaid inni wneud penderfyniad ddechrau'r flwyddyn."

Dywedodd nad oedd hi'n anochel y byddai'r ŵyl yn Nhregaron yn cael ei gohirio gan fod y sefyllfa gyda'r feirws yn newid bron yn ddyddiol.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

Ym mis Medi fe rybuddiodd prif weithredwr yr Urdd, Sian Lewis efallai na fyddan nhw mewn sefyllfa i gynnal Eisteddfod draddodiadol yn 2021.

Dywedodd Ms Lewis wrth Bwyllgor Diwylliant Senedd Cymru bryd hynny: "Dyw'r Eisteddfod a'r chwaraeon cenedlaethol - fel ry'n ni wedi ei ddweud, ac fel ry'n ni'n rhagweld, i fod yn gwbl realistig o'r negeseuon rydyn ni'n clywed trwy gyfarfodydd â Llywodraeth Cymru - ddim yn debygol o ddigwydd flwyddyn nesaf oherwydd y canllawiau social distancing."

Yn ystod yr un sesiwn rhoi tystiolaeth dywedodd Ms Lewis hefyd bod y pandemig "wedi agor y drysau inni feddwl yn wahanol, a sicrhau ein bod ni yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd".

Dywedodd bod "Eisteddfod T wedi dangos y ffordd inni sicrhau bod yna Eisteddfod, o bosib Eisteddfod T arall, yn mynd i fod ar gyfer y dyfodol".

Mae'r mudiad wedi cydnabod eu bod nhw wedi colli £14m o incwm yn ystod 2020, ac yn wynebu dyled o £3.5m.

Dywed yr Urdd mai dyma'r "cyfnod mwyaf heriol yn ei 98 mlynedd o hanes" gyda dros 160 wedi gadael allan o gyfanswm o 328 o aelodau staff.

Ym mis Tachwedd cafodd ymgyrch godi arian newydd ei lansio, gyda rhai o sêr tîm pêl-droed Cymru yn annog cefnogwyr i brynu het i helpu'r mudiad.