Y Gynghrair Genedlaethol: Eastleigh 1-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Fe gollodd Wrecsam gyfle i sicrhau ail fuddugoliaeth oddi cartref o'r bron ar ôl ildio cic gosb i Eastleigh yn yr ail hanner.
Roedd tîm Dean Keates 1-0 ar y blaen, er taw'r tîm cartref oedd yn cael y gorau o'r gêm, wedi i Kwame Thomas sgorio ei bedwaredd gôl o'r tymor ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Ond fe sgoriodd Joe Tomlinson o'r smotyn i unioni'r sgôr wedi 71 o funudau.
Gyda phum munud yn weddill, roedd Wrecsam i lawr i 10 dyn wedi i Tyler French, yn ei ymddangosiad cyntaf, weld ail garden felen dros ddigwyddiad oddi ar y bêl.
Mae Wrecsam yn yr wythfed safle gyda 28 o bwyntiau.