Heddlu'n ymchwilio i gartŵn 'hiliol' mewn cylchlythyr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BwlchgwynFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cylchlythyr yn cael ei ddosbarthu yn ardal Bwlchgwyn, i'r gorllewin o ganol tref Wrecsam

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i gartŵn sy'n ymddangos fel petai'n rhoi'r bai ar bobl Chineaidd am achosi'r pandemig ymddangos mewn cylchlythyr cymunedol yn Wrecsam.

Fe wnaeth y llun ymddangos yn rhifyn diweddaraf y Bwlchgwyn Bulletin.

Yn y cartŵn mae Siôn Corn yn pwyntio at stereoteip sarhaus o ddyn Chineaidd gyda'r capsiwn: "Ar ôl y llanast rwyt ti wedi'i achosi fe fyddi di ar y naughty step am byth!"

Mae aelodau o Gymdeithas Trigolion Bwlchgwyn, sy'n rhannu'r cylchlythyr, wedi ymddiheuro os ydy'r cartŵn wedi achosi unrhyw ofid.

'Hiliol'

Cafodd y cartŵn ei feirniadu wedi i gynghorydd sir Plaid Cymru, Carrie Harper dynnu sylw ato ar ôl i aelod o'r gymuned roi gwybod iddi amdano.

Dywedodd y Cynghorydd Harper fod y cartŵn yn "hiliol", gan stereoteipio pobl Chineaidd.

"Mae defnyddio cartwnau er mwyn gwawdio a bychanu grwpiau o bobl yn dacteg hiliol amlwg, boed hynny yn erbyn pobl ddu, Iddewon neu fel yn yr achos yma, pobl Chineaidd," meddai.

"Pwynt gwneud hynny wastad ydy ei gwneud yn llai o drosedd yn ddiweddarach pan mae ymosodiad ar y grŵp yna mewn rhyw ffordd.

"Dyna pam ei fod yn sarhaus a dyna pam ei bod yn bwysig tynnu sylw at y math yma o gynnwys.

"Mae'r cartŵn yma hefyd yn awgrymu mai pobl Chineaidd yn gyfrifol am Covid, sy'n amlwg yn nonsens."

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carrie Harper bod y cartŵn yn "gwawdio a bychanu" pobl o China

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod y digwyddiad yn cael ei drin fel un "difrifol".

"Rydyn ni wedi derbyn adroddiad bod trosedd casineb yn y cylchlythyr, sy'n ddealladwy wedi achosi gofid," meddai'r Prif Arolygydd Helen Douglas.

"Rydyn ni'n trin y mater fel un difrifol ac yn gwneud ymholiadau er mwyn sefydlu'r ffeithiau."

'Nid achosi gofid oedd y bwriad'

Mewn datganiad ar eu tudalen Facebook, dywedodd Cymdeithas Trigolion Bwlchgwyn bod y cartŵn "wedi'i lunio gan artist lleol talentog iawn fel ychydig o hiwmor, ac nid achosi gofid oedd y bwriad".

Ychwanegodd bod y cylchlythyr eisoes wedi'i ddosbarthu erbyn i'r mater gael ei dynnu at sylw'r gymdeithas.

"Mae pawb oedd yn rhan o'r mater yn ymddiheuro am unrhyw ofid neu dramgwydd sydd wedi'i achosi i drigolion gan y cartŵn, a bydd pob sylw sydd wedi'i dderbyn yn cael ei ystyried er mwyn sicrhau nad ydy mater o'r fath yn digwydd eto," meddai'r datganiad.