Honiadau am system brofi Covid Prifysgol Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Neil Evans
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Neil Evans adael ei swydd fel rheolwr system brofi Prifysgol Caerdydd bythefnos cyn iddi gychwyn

Dywed rheolwr system brofi Covid-19 ym Mhrifysgol Caerdydd ei fod wedi gadael ei swydd am ei fod yn teimlo bod y system yn ddiffygiol.

Mae Neil Evans wedi dweud wrth BBC Cymru nad oedd y canlyniadau yn ddibynadwy cyn i'r system gael ei lansio a'i fod yn credu bod y brifysgol yn awyddus i gychwyn y system yn rhy fuan cyn tymor yr hydref.

Mae Prifysgol Caerdydd yn gwrthod yr honiadau yn llwyr ac yn dweud bod y system wedi canfod "cannoedd" o achosion asymptomatig positif.

Mae llywydd y Sefydliad Gwyddoniaeth Fiomeddygol wedi dweud wrth BBC Cymru fod ganddo rai pryderon am y system.

Ffynhonnell y llun, Colin Smith/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Caerdydd yn "gwrthod honiadau" Mr Evans

Fe wnaeth Prifysgol Caerdydd ddechrau cynnig profion i staff a myfyrwyr nad oedd â symptomau o Covid ym mis Hydref gan ddweud bod hynny'n "ddyletswydd dinesig".

Mae 25,000 o brofion wedi'u cynnal. Dywed y brifysgol bod hynny wedi helpu i ganfod "rhai cannoedd o achosion asymptomatig" a bod y bobl yna wedi hunan-ynysu yn hytrach "na lledaenu'r haint".

Roedd y system yn golygu bod yn rhaid i fyfyrwyr a staff roi sampl o boer ar gyfer prawf PCR, dolen allanol a phetai'r prawf yn bositif byddai'n ofynnol i berson gael prawf swab y GIG er mwyn cael cadarnhad.

Mae'r brifysgol yn amcangyfrif bod yna 90% o gysondeb rhwng canlyniadau eu profion nhw a rhai y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y brifysgol bod y system wedi canfod "rhai cannoedd o achosion asymptomatig positif"

Ond dywed Neil Evans ei fod e'n hynod o bryderus bod y system yn cynhyrchu canlyniadau negatif a phositif ffug.

Roedd Mr Evans yn rheolwr y gwasanaeth yn Awst a Medi y llynedd tra bod y system yn cael ei datblygu.

Fe wnaeth e ymddiswyddo ar 23 Medi, bythefnos cyn i'r brifysgol brosesu y canlyniadau cyntaf.

Dywed ei fod wedi bod yn hapus i gael y swydd gan ei fod yn teimlo y gallai'r gwasanaeth helpu staff a myfyrwyr i ddychwelyd yn ddiogel i'r campws.

Ond mae'n dweud bod dymuniad y brifysgol i gyflwyno'r gwasanaeth "ar frys" pan oedd e'n teimlo bod angen mwy o amser i ddilysu'r system wedi achosi cryn bryder iddo.

"Roedd e'n wasanaeth diffygiol am nifer o resymau," meddai.

Mae'n ychwanegu nad oedd "modd ymddiried yn y canlyniadau a bod myfyrwyr yn cael eu camarwain".

"Doedd dim modd i fi arwyddo'r canlyniadau gan nad oeddwn yn hapus gyda'r broses ddilysu," meddai.

"Petai'r system gyfan wedi cael mwy o fisoedd ar gyfer dilysu mi fyddai wedi bod yn wasanaeth hynod o dda," ychwanegodd.

Mae Mr Evans yn dweud bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhannu ei ofnau ac "nad oedden nhw am iddo ddigwydd. Roedden nhw'n ei weld yn fwy o rwystr na chymorth".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu rhai myfyrwyr yn hunan-ynysu yn eu neuaddau preswyl yng Nghaerdydd wedi iddynt gael profion positif

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: "Ry'n yn gwrthod yr honiad nad oedd ein gwasanaeth sgrinio yn barod ac fe wnaethon ni ddweud gydol yr amser nad oedd y gwasanaeth (ar y pryd) wedi cael ei achredu gan yr awdurdodau rheoleiddio.

"Ond mae ein gwasanaeth sgrinio wedi cael ei gydnabod gan awdurdodau perthnasol ac ry'n wedi ymateb i geisiadau fel profi myfyrwyr oedd ar leoliadau'r GIG cyn gwyliau'r Nadolig.

"Yn ystod cyfnodau cyntaf y prosiect fe gawson gyngor gan Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am anghenion rheoli a phrosesu.

"Roedd unrhyw brawf positif yn gorfod cael ei gadarnhau gan brawf swab y GIG.

"Ychydig iawn o raglenni profi eraill oedd â'r lefel yma o ddilysrwydd. Ry'n yn gwrthod y ffaith nad oedd digon o ddilysu i gael hyder yn ein canlyniadau. Roedd y broses ddilysu yn gadarn ac yn drwyadl."

Wedi gweld ymateb Prifysgol Caerdydd dywedodd Allan Wilson, llywydd y Sefydliad Gwyddoniaeth Fiomeddygol mai ei brif bryder e oedd y defnydd o boer ar gyfer prawf PCR.

"Dyw hi ddim yn arferiad cyffredin yn y DU," meddai, "a chyn belled â bo fi'n gwybod dyw hyn ddim yn digwydd mewn unrhyw labordy ddeiagnostig arall ond roedd anfon pobl oedd wedi cael canlyniad positif i gael prawf arall i gadarnhau hynny yn "gam call".

"Yr hyn sy'n bryderus yw canlyniad negatif gan system na sydd wedi'i dilysu ac o ganlyniad i hynny ymddygiad unigolion sy'n credu eu bod yn negatif ond a oedd mewn gwirionedd yn bositif."

Cydweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru?

Wrth ymateb i bryderon Mr Wilson am samplau o boer dywedodd Prifysgol Caerdydd: "Doedd hyn ddim yn arferol yn y DU cyn Covid-19 ond mae poer yn cael ei ddefnyddio yn gyson mewn profion Covid-19 mewn mannau eraill yn y byd a dyma hefyd ddull sgrinio rhai prifysgolion eraill.

"Doedd ein gwasanaeth ddim yn rhoi prawf clinigol deiagnostig ac roedd yn rhaid i bob un oedd yn cael prawf positif neu un amhendant fynd am brawf arall drwy GIG Cymru.

"Ry'n yn gweithio ar ddulliau eraill a fydd yn cefnogi ein cais i gael achrediad."

Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru nad oedd modd iddyn nhw wneud sylw gan nad oedden nhw'n rhan o system Prifysgol Caerdydd.

Ond yn ôl Prifysgol Caerdydd mae ganddyn nhw "berthynas weithio ragorol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru" ac maent yn dweud bod uwch gynrychiolwyr wedi "cydnabod Gwasanaeth Sgrinio y Brifysgol a'i gyfraniad tuag at sicrhau campws diogel".

Mae modd gweld y stori'n llawn ar Wales Live heno am 10.35 ar BBC 1 Cymru.