Myfyrwyr Prifysgol: Sut mae’r pandemig wedi effeithio arna i
- Cyhoeddwyd
Mae'r pandemig wedi effeitho ar bawb mewn gwahanol ffyrdd, ac mae nifer o fyfyrwyr prifysgolion wedi gorfod gadael eu cwrs, eu ffrindiau a'u annibyniaeth i fynd am adre. Mae rhai wedi gorfod gadael eu bywyd mewn gwlad arall i ddychwelyd i Gymru i ynysu.
Mae Owain Lewis Williams, Hawys Davies, Lydia Thomas a Kai Saraceno, yn trafod effaith y coronafirws ar eu bywydau a'u gobeithion am y dyfodol:
Mae Owain yn fyfyriwr Meddygaeth ar ei drydedd flwyddyn, ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn hytrach na threulio cyfnod ar wardiau ysbytai yn cael profiad ymarferol, mae'n cael darlithoedd dros y we o'i gartref yng ngogledd Cymru:
O'n i'n byw yng Nghaerdydd, ac o'n i fod i fynd ar leoliad [i ysbytai], ond yn amlwg mae hynny wedi cael ei ganslo. Does dim profiad cweit fel bod ar leoliad, ti'n gweld cleifion bob dydd, ti'n cymryd gwaed, ti'n dysgu gymaint.
Rydan ni yn derbyn darlithoedd a tiwtorials yn lle mynd ar leoliad, felly gobeithio fyddwn ni ddim o dan ormod o anfantais y flwyddyn nesa. Mae'n dal i boeni ni, fydd o ddim cweit yr un peth.
Roedd ganddon ni gyd gyfle i wirfoddoli i'r gwasanaeth iechyd ac fe wnes i a fy ffrindiau roi ein henwau mlaen yn gynnar iawn ym mis Mawrth. Mae lot o fy ffrindiau wedi dechrau ar hynny mewn ysbytai ar draws De Cymru ond ges i ebost yn dweud na fysa ysbyty Glan Clwyd fy angen i, sydd yn newyddion da iawn achos mae'n golygu eu bod nhw'n gallu delio efo [y feirws].
O'n i'n poeni am ddod adre achos yn Gaerdydd oedd na lot fwy yn diodda efo'r feirws, a cyn y lockdown, fe wnes i a fy ffrindiau social isolatio am wythnos cyn dod adre, er nad oedd ganddon ni unrhyw symptomau, ond o'n i dal yn teimlo ofn o'i roi o i fy rhieni neu fy mrawd a chwaer. Oedd o'n teimlo fel y peth iawn i neud.
Oedd [cyn y lockdown] yn gyfnod rhyfedd, oeddat ti'n cael mynd allan i'r pyb neu i'r siop, ond oedd o'n teimlo yn rong i wneud hynna. Dwi'n teimlo gallan nhw [y Llywodraeth] fod wedi actio yn gynt, yn dilyn Sbaen, Ffrainc a'r Eidal.
Dwi'n meddwl fel pobl ifanc, dan ni yn ymwybodol o beth sy'n mynd ymlaen yn y byd, dan ni mor connected i bob dim sy'n mynd ymlaen a dan ni'n teimlo bod ganddon ni ddyletswydd i'n gilydd.
Roedd Hawys Davies, sydd yn fyfyriwr Ffrangeg a'r Gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd yn treulio cyfnod yn Ne Ffrainc, pan ddechreuodd y 'lockdown' yno:
O'n i'n byw yn Toulouse ers mis Awst, yn astudio yn y brifysgol yno.
Mae Toulouse yn lyfli, mae'r tywydd yn ffab, mae'n agos i bopeth, ond yn amlwg wrth i'r sefyllfa fynd yn waeth doedd Prifysgol Caerdydd ddim wir yn hapus fy mod i'n aros mas yna.
O'n i'n byw mewn fflat bach yng nghanol y dre, doedd dim gardd, felly r'on i'n lwcus iawn bo fi'n gallu dod adre, ac yn y diwedd dwi'n falch mod i wedi. Sai'n gwybod sut fydden i wedi gallu aros mewn lockdown mor llym fel oedd yn Ffrainc, ddim yn gallu neud dim byd.
O'n i'n ffeindio fe'n od i ddod nôl. Oedd hi tua pythefnos cyn y lockdown yn y wlad hyn, a pan ddes i nôl roedd maes awyr Toulouse yn wag, oedd y siopau i gyd ar gau, a wedyn o'n i'n troi lan ym Mryste, ac oedd hi fel ganol haf yna.
Ac i weld hynna, ar ôl dod o Ffrainc, oedd e'n anghyfforddus i fod yn onest. O'n i'n trio symud bant o bobl, ac oedden nhw yn edrych arna i yn meddwl beth sy'n bod arna i. Ond oedd e cyn i bobl sylweddoli pa mor ddifrifol oedd e [fan hyn].
Dwi fod graddio flwyddyn nesa a 'sneb yn siŵr sut fydd hi erbyn mis Medi neu Hydref o ran mynd nôl i Gaerdydd. Yn sicr o ran [gorfod dod adre] o'r flwyddyn dramor, o'n i'n teimlo'n rhwystredig. O'dd hi'n mynd i fod yn flwyddyn lle o'n i'n byw yn Ffrainc ac o'n i yn mynd i weithio ar fy Ffrangeg.
Er bo fi'n siomedig, mae'n anodd bod yn siomedig pan chi'n clywed am bobl sy'n rili sâl neu teuluoedd sy'n gorfod byw ar wahân.
Mae hawl da pawb fod yn siomedig... y rhai sydd ddim yn cael seremoni graddio .. ar ôl gweithio mor galed mae'n rili anodd. Ond fi'n credu bod e'n rhan bwysig i fi yn bersonol i ddysgu perspectif, bod hawl da fi fod yn rhwystredig a siomedig, ond 'ma lot gwaeth pethe yn mynd mlaen.
Mae Lydia Thomas yn fyfyriwr Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Reading. Roedd hi'n byw yn Sbaen wrth i'r pandemig ledu:
Roedd Sbaen gyda'r cyntaf i gyhoeddi lockdown. Roedd [y sefyllfa gyda'r coronafeirws] yn rili wael, oedd e'n awful yna.
'Gobeithio fydd popeth yn gweithio mas'
O'n i adre am y penwythnos, fel mae'n digwydd [pan gyhoeddwyd y lockdown yn Sbaen], ac mae fy mhethe i i gyd nôl mas yna a sdim hawl da fi fynd nôl mas i nôl nhw. Mae fy nhrefiadau i gyd wedi cael eu canslo. Sdim lot i wneud nawr rili.
Pan af i nôl i Sbaen, gobeithio fydd popeth yn gweithio mas.
Wnes i ond dechre astudio Sbaeneg yn fy mlwyddyn gynta yn y coleg, felly o'n i yn total beginner, ac o'n i ond wedi bod yn Sbaen am un mis, felly dydy fy Sbaeneg i ddim yn grêt. O'n i mor siomedig i ddod adre, dwi'n teimlo tamed bach yn selfish i ddweud bo fi'n teimlo mod i'n colli mas ar flwyddyn mor bwysig am fy ngradd i.
[Cyn y lockdown fan hyn] wnes i siarad gyda fy flatmate yn Sbaen, ac odd hi'n rili shocked bo fi yn gallu mynd mas [o'r tŷ] achos oedd hi'n dweud dyle ti ddim mynd mas, ac os wyt ti'n mynd ar y trên am wisgo mwgwd, dyw pawb ddim yn sylweddoli pa mor serious yw e.
Yn Sbaen a'r Eidal os wyt ti'n mynd allan ti'n cael fine.
Dwi'n self isolatio gyda fy chwaer a fy nhad, sydd yn neis, ond mae wedi bod yn rili bwysig i siarad 'da ffrindiau bob dydd, a ni'n trial neud cwis ar Zoom ar y penwythnos. Mae'n anodd ddim gweld boyfriend fi, ffrindiau a Mam.
Mae'n bwysig i gael 'normal'. Ar y dechre, o'n i gyda routine rili da, o'n i'n neud ffitrwydd, neud gwaith.. ond nawr mae e wedi mynd.
Pan sylweddolais i bod y lockdown ddim yn mynd i stopio, o'n i'n meddwl what's the point? Fi'n ffeindio fe'n eitha anodd i sticio i fy routine i.
Daw Kai Saraceno o'r Ffindir, ond mae'n astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Dysgodd Gymraeg 'am hwyl' dros y we pan oedd yn Y Ffindir cyn penderfynu dod draw i Fangor i astudio:
Mae fy mlwyddyn i wedi cario mlaen fel oedd o, ond heb y darlithoedd. Dan ni'n cael yr un traethodau ag o'n ni'n mynd i gael beth bynnag, ond dydan ni ddim yn mynd i'r Brifysgol.
Mae Dad yn byw yn yr Eidal ar hyn o bryd, ac wedi bod yn siarad â fi am y sefyllfa yno. Mae Mam yn Y Ffindir. Mae'n weird achos mae pawb arall efo teulu nhw rŵan a dwi ddim.
Mae'r rhan fwya' oedd yn byw yn Neuadd JMJ neu oedd yn rhentu fflat yn Bangor wedi mynd adra, wrth gwrs i fi mae bach yn fwy anodd, achos bydde rhaid i fi ffeindio rhywle i fy holl stwff a theithio drwy Llundain i fynd adra' a doeddwn i ddim am wneud hynny. Fe wnes i benderfynu bod hi'n haws i mi aros yma.
Dwi yn Neuadd JMJ ar ben fy hun, mae bach yn unig, achos dwi di arfer clywed pobl a dwi'n y gegin ar ben fy hun, does neb o gwmpas. Dwi wedi bod lot ar Skype, mae'n ffordd o gysylltu 'da ffrindiau.
Dwi di ffeindio fe'n anodd gorfodi fy hun i neud [y gwaith]. Dwi'n siŵr bod lot o bobl eraill wedi teimlo'n isel achos eu bod nhw yn methu gweld ffrindiau.
Dwi ddim yn gwybod pryd gaf i fynd adra. Mae gen i flight ar Orffennaf 1af ond dwi ddim yn siŵr a fydd hwnnw yn mynd ymlaen, neu falla fydda i'n aros yma trwy'r haf.
Hefyd o ddiddordeb: