'Tyda ni ddim yn ffraeo, da ni jest ddim yn siarad'
- Cyhoeddwyd
Mae'r cynhyrchydd teledu, Nia Dryhurst, wedi troi at stori bersonol iawn yn ei rhaglen diweddaraf, ar gyfer cyfres Drych ar S4C.
Mae'r ffilm Chwaer Fach, Chwaer Fawr yn archwilio ystyr perthynas deuluol a pherthynas dwy chwaer sydd wedi bod yn byw ar gyrion ei gilydd ers blynyddoedd. Yn dilyn damwain, mae'n amser gweld os daw mendio i'r doluriau ac i weld os y gall dwy chwaer ddod yn ddwy ffrind:
Rydan ni'n deulu clòs mewn sawl ffordd - Mam, Nhad, fy chwaer fach a minnau. Yn tyfu fyny, roedd Llinos a fi'n dipyn o ffrindia' - yn rhannu llofft, yn rhannu ffrindia' ac yn rhannu perspectif plentyndod nad all neb ond dwy chwaer ei ddeall efallai? Ond ma' hynny i gyd yn teimlo 'mhell bell yn ôl erbyn hyn.
Y peth ydi, da ni fel caws a chalch o'r cychwyn. Mae Llinos yn strêt, yn glam i gyd ac yn siarad Saesneg fel petae hi 'di bod i ysgol fonedd. Minnau'n dipyn o tomboi o hyd - yn fam, yn hoyw ac wedi meddwl bod Llinos yn byw ar blaned arall ar adegau.
Pan oedd Llinos ar fin ymuno efo'r fyddin, roeddwn i ar fin bod yn lleian. Goeliwch chi?
Peidiwch â gadael imi ddechra sôn am wleidyddiaeth neu mi fydd hi'n dwrw yn y dent cyn cychwyn! Cwbl dduda'i yw bod diwrnod 'Dolig yn ddiddorol iawn acw - efo Llinos a mi yn cwffio am y remote controlam 3 o'r gloch - minnau i drio diffodd clebar brenhines Lloegr a hithau i drio gwrando'n astud. Sôn am un chwaer yn cae rwdins a llall yn cae tatws, ta be!
Ers i ni'll dwy adael Caernarfon yn 18 oed fe ddaeth y gwahaniaethau hyn yn fwy amlwg fyth; efo trywyddau ein bywydau'n mynd â ni i begynnau cwbl wahanol.
Aeth Llinos i'r fyddin, yr MoD ac yna i Saudi Arabia; ple bu'n gweithio i'r Gwasanaeth Cudd. A minnau? Wel, pan oedd Llinos ar fin ymuno efo'r fyddin, roeddwn i ar fin bod yn lleian. Goeliwch chi? Ydach chi'n dechrau gweld? Y gwir ydi, tydi Llinos a fi ddim yn ffraeo, da ni jest ddim yn siarad.
Fel'ma bu hi ers blynyddoedd; efo'r heanau o ddrwg-deimlad, diffyg deall a diffyg ffydd yn ein gilydd wedi tyfu i fod yn fynydd o fwlch. Dyma wrth-ddweud, dwi'n gwybod - un sy'n crisialu'r berthynas i'r dim. Ond mae rhywbeth wedi newid nawr.
Ar ôl blynyddoedd o fyw ar wahan (yn ddaearyddol ac yn emosiynol), rydan ni'll dwy yn ôl yng Nghaernarfon. Yn fwy na hynny; yn ystod y cyfnod clo cynta, fe ddaru Llinos gael damwain a thorri ei gwddw.
Tra roedd hi'n gorwedd yn ysbyty Bangor - ar ei phen ei hun, ynghanol creisys Covid, yn disgwl cael ei rhuthro i Stoke i gael llawdriniaeth brys; y fi ddaru hi ffonio - nid fy Mam na 'Nhad, nid ei ffrindiau o'r fyddin, nid ei byddin o gyn gariadon ond y fi - ei chwaer fawr. Tros y dyddiau nesa a minnau ddim yn gwybod os byddai Llinos yn dod trwy'r driniaeth, os byddai'n gallu cerdded fyth eto; fe ddechreuom siarad.
Fyddai hyn ddim yn hawdd ac fe wyddom yn iawn y byddai dagrau a geiriau croes yn rhan o'r siwrna
Mae Llinos yn well erbyn hyn. Fe fu'r llawdriniaeth yn llwyddiannus ac mae'r siarad wedi parhau hefyd - jest rhyw fymryn!
Dim ond y dechra oedd hyn ac mi roeddem ni'll dwy eisiau'r siwrna' fynd yn ei blaen - eisiau i'n perthynas ni fod yn well hefyd. Roeddem ni eisiau dod i nabod ein gilydd, eisiau gweld os allen ni bontio'r bwlch, eisiau gweld os allen ni faddau i'n gilydd am ein holl gamweddau a dod yn ffrindiau unwaith eto.
Fyddai hyn ddim yn hawdd ac fe wyddom yn iawn y byddai dagrau a geiriau croes yn rhan o'r siwrna. Ond roedd gen i ffydd.
Gwrandewch ar Nia Dryhurst yn trafod ei pherthynas efo'i chwaer ar raglen Aled Hughes
Roeddwn i'n gobeithio, yn gweddïo, y byddai mynd trwy broses o therapi efo'n gilydd a chael 'cyffes y camera' yn rhan o'r broses, yn gyfle inni drio dod yn ffrindia o leia; dod yn ffrindia cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
Roedd cychwyn ar y broses ffilmio wedi bod yn barod - fe ddaru mi ffilmio rhaglen pilot i Channel 4 bron i ugain mlynedd yn ôl. Ddaru'r ffilm honno ddim gweld golau dydd - gan fy mod i'n mynnu ei gwneud trwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd, efallai, am nad oedd digon o ddŵr wedi mynd dan y bont bryd hynny.
Mae'r llif-ddorrau wedi agor erbyn hyn, yn sicr, ac rwy'n fawr obeithio bod y ffilm ddiweddar yma'n un aeddfed a gonest ac er yn galon-rwygol ar adegau, mae'n ffilm, dwi'n obeithio drachefn, fydd yn codi calon hefyd.
Mae teulu'n beth od tydi - y cwlwm sy'n ein cynnal ond y gadwyn all ein tagu hefyd. Dyma ffilm sydd yn cychwyn ar y gwaith o fendio'r doluriau a chau'r bwlch - ffilm y gall unrhyw un sydd wedi teimlo ar gyrion perthynas deuluol, uniaethu â hi.
Bydd Chwaer Fach, Chwaer Fawr ar S4C ar nos Sul 14 Chwefror am 21:00.
Hefyd o ddiddordeb: