Dan Lydiate yn dechrau i Gymru yn erbyn Iwerddon
- Cyhoeddwyd
![Dan Lydiate](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1712D/production/_116590549_cdf_031118_wales_v_scotland_082.jpg)
Dyma fydd y tro cyntaf i Lydiate ddechrau gêm dros ei wlad ers Tachwedd 2018
Bydd y blaenasgellwr Dan Lydiate yn dechrau gêm i Gymru am y tro cyntaf ers dros ddwy flynedd wrth herio Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sul.
Mae Alun Wyn Jones hefyd yn ffit i ddychwelyd fel capten yng ngêm agoriadol Cymru ym mhencampwriaeth eleni, ac mae Adam Beard hefyd yn dychwelyd i'r ail reng.
Mae George North wedi ei ddewis fel canolwr i ennill ei 99fed cap.
Chwaraewr ifanc Caerloyw, Louis Rees-Zammit, sydd wedi ei ddewis ar yr asgell dde, gyda Hallam Amos ar yr asgell chwith.
Dyma fydd ymddangosiad cyntaf Rees-Zammit yn y Chwe Gwlad.
![Alun Wyn Jones](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/2EF7/production/_116832021_alunwynjones3_get.jpg)
Roedd disgwyl i Alun Wyn Jones golli dechrau pencampwriaeth eleni ar ôl anafu eu ben-glin yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref
Mae mewnwr Caerdydd, Tomos Williams yn dechrau yn lle Gareth Davies ar ôl colli ymgyrch yr hydref oherwydd anaf, ynghyd â Dan Biggar.
Un arall sy'n dychwelyd yw'r bachwr a chapten y Scarlets, Ken Owens a gollodd ymgyrch yr hydref oherwydd anaf i'r ysgwydd.
Mae'r asgellwyr Liam Williams a Josh Adams yn absennol oherwydd gwaharddiadau - Williams ar ôl cael cerdyn coch mewn gêm rhwng y Scarlets a'r Gleision ym mis Ionawr, ac Adams am dorri rheolau Covid-19.
Tîm Cymru i wynebu Iwerddon:
Leigh Halfpenny; Louis Rees-Zammit, George North, Johnny Williams, Hallam Amos; Dan Biggar, Tomos Williams; Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (capten), Dan Lydiate, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Elliot Dee, Rhodri Jones, Leon Brown, Will Rowlands, Josh Navidi, Gareth Davies, Callum Sheedy, Nick Tompkins.
Mae Josh Navidi wedi'i gynnwys ar y fainc ar ôl gwella yn dilyn cyfergyd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2021