Cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio cydnabod 'methiannau'

  • Cyhoeddwyd
Adam PriceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Adam Price nad yw'r llywodraeth wedi "cydnabod methiannau"

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru gan ddweud nad yw'n cydnabod "methiannau" ac "addewidion sydd wedi eu torri".

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod y llywodraeth wedi methu targedau i ddileu tlodi plant a thlodi tanwydd.

Mewn ymateb dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford fod polisïau ei lywodraeth wedi "gwneud gwahaniaeth real i fywydau pobl real".

Fe wnaeth adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru, dolen allanol bwysleisio fod addewidion yn ymwneud â gofal cymdeithasol a phrentisiaethau wedi eu cyflenwi.

Dywed yr adroddiad fod y llywodraeth wedi cyflawni addewidion maniffesto Llafur Cymru yn 2016, gan gynnwys codi'r trothwy lle mae'n rhaid dechrau talu am ofal preswyl i £50,000, a chronfa £80m er mwyn hwyluso mynediad i feddyginiaethau sy'n gwella ansawdd bywyd neu yn ymestyn bywyd.

Yn ystod sesiwn holi'r prif weinidog yn y Senedd, fe wnaeth Adam Price ddyfynnu o ddogfen fewnol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd ei fod wedi ei ysgrifennu gan un o gyn-gyfarwyddwyr allanol y Llywodraeth ac yn dweud "mae yna duedd i roi sylw ac i roi tic yn y blwch er mwyn gallu dweud fod addewidion maniffesto wedi eu cyflawni".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford: 'Y Llywodraeth wedi gwneud gwahaniaeth real i fywydau pobl'

Wrth ymateb dywedodd Mr Drakeford fod arweinydd Plaid 'Cymru wedi dangos "agwedd wawdlyd".

"Mae'n bosib fod well ganddo annibyniaeth neu sylwadau uchel-ael arall, ond byddwn ni yn ymdrin â'r pethau hynny sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl," meddai.

Ym mis Medi fe wnaeth swyddogion Llafur Cymru ddosbarthu Dogfen Bolisi Drafft Terfynol ymhlith ei aelodau er mwyn "adeiladu maniffesto pwerus a blaengar ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2021".

Ond dywedodd Darren Williams, ysgrifennydd y grŵp asgell chwith Welsh Labour Grassroots fod y rhan fwyaf o'r polisïau yn y ddogfen yn "rhai difflach a gofalus".

Nol ym mis Rhagfyr dywedodd: "Mae'r trydydd, a'r ddogfen ymgynghorol derfynol, yn cynnwys bach iawn o bolisïau newydd a dim oll mewn meysydd holl bwysig fel cynhyrchu, trafnidiaeth rheilffordd, llywodraeth leol neu hyd yn oed polisi amgylcheddol y tu hwnt i ymroddiad amwys i gynllun Cymru gyfan i fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd."

Wrth gyfeirio at y feirniadaeth yn y Senedd dywedodd Adam Price: "Fe allwch anwybyddu fy meirniadaeth i o'ch llywodraeth, ond a allwch chi wfftio geiriau'r union bobl sydd wedi ymgyrchu i roi chi yn y safle rydych nawr ynddo."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Senedd bresennol wedi pasio 17 o ddeddfau

Dywedodd Mr Drakeford: "Fe fydd ein cynigion ar gyfer y Senedd nesaf yn cael eu cyhoeddi ym maniffesto Llafur.

"Pan fydd yr aelod wedi ei weld, fe fydd e'n gallu rhoi barn arno."

Fe wnaeth adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020 hefyd gyfeirio at bolisïau eraill fel y 30 awr yr wythnos o ofal plant tair a phedair oed am ddim i rieni sy'n gweithio.

Fe wnaeth arolwg ar ran Llywodraeth Cymru ddangos tra bod y cynllun yn arbed cannoedd o bunnoedd i deuluoedd, roedd yna "ddryswch am sut mae'r cynllun yn gweithio".

Yn ystod y pumed Senedd, cafodd 17 o ddeddfau newydd eu pasio gan gynnwys pris isafswm am alcohol a gwahardd taro plant.