£40m at gyfleoedd gwaith ac addysg i bawb dros 16 oed

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Siopa Dewi Sant 2Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder ynghylch effaith hirdymor y pandemig ar yr economi

Bydd pawb dros 16 oed yng Nghymru yn cael cymorth i gael gwaith, gweithio ar liwt eu hunain, addysg neu hyfforddiant yn sgil y diswyddiadau sydd i'w disgwyl yn y misoedd nesaf, yn ôl Gweinidog yr Economi.

Dangosodd ffigyrau ddydd Mawrth fod nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yng Nghymru wedi dyblu o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

Bydd gwerth £40m o gefnogaeth yn cael ei roi i'r cynllun o'r Gronfa Gwydnwch Economaidd, gyda'r nod o roi "gobaith" i bobl sy'n ofni colli eu swyddi.

Yn y gynhadledd newyddion ddyddiol, dywedodd Ken Skates hefyd mai "bwlch bach iawn" sydd yna rhwng Cymru a Lloegr o ran ailagor busnesau yn sgil yr argyfwng coronafeirws.

Cafodd siopau nwyddau sydd ddim yn hanfodol ailagor yn Lloegr ddydd Llun ond doed dim dyddiad hyd yma i hynny ddigwydd yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae siopau wedi cael ailagor yn Lloegr ers dydd Llun 15 Mehefin

Yn ôl Mr Skates, bydd Llywodraeth Cymru ond yn cyhoeddi newidiadau pan fo sicrwydd bod modd eu cyflawni.

Ychwanegodd y bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cyhoeddi rhagor o fanylion ddydd Gwener ynghylch ailagor siopau o'r fath, a'r canllawiau diweddaraf mewn cysylltiad â'r farchnad dai, a gweithgaredd awyr agored fel marchnadoedd a gwerthu ceir.

'Ddim eisio torri addewidion'

"Dydyn ni ddim eisiau bod mewn sefyllfa o orfod gwneud tro pedol a thorri addewidion yma yng Nghymru oherwydd mae busnesau angen sicrwydd," meddai Mr Skates. "Maen nhw angen ffydd yn y llywodraeth a gwybod pan rydym yn datgan gall rhan o'r economi ailagor, fe fydd hynny yn digwydd.

"Rwy'n hyderus pan fydden ni'n cymeradwyo ailagor busnesau, fydden ni'n gwneud hynny gan wybod fod busnesau'n gallu ailagor mewn modd diogel a threfnus."

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau, gan gydweithio â'r cyrff perthnasol a chyflogwyr "i sicrhau nad yw ailagor busnesau yng Nghymru'n creu bygythiad difrifol i'r gwaith caled gan bawb i gyfrannu ar leihau'r rhif R."

Dywedodd Mr Skates hefyd ei fod yn dymuno i'r sector twristiaeth ailagor "mor fuan â phosib" ond y byddai hynny ond yn digwydd pan fydd modd gwneud hynny'n ddiogel.

"Dydyn ni ddim am ddewis dyddiadau mympwyol os ydyn ni'n ansicr bod modd ymrwymo iddyn nhw," meddai. "Rydyn ni wedi gweld sut mae hynny'n achosi dryswch..."

"Rydych chi ond yn cael un cyfle i ailagor. Gallwch chi ddim rhoi'ch gweithwyr yn ôl ar ffyrlo, felly mae'n hollol gywir ein bod yn ailagor rhannau o'r economi, sydd mor hanfodol i economi Cymru, mewn ffordd drefnus, diogel a phwyllog."