Cynllun taclo tlodi tanwydd wedi methiant targedau

  • Cyhoeddwyd
woman holds cup of tea by fireFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cynllun newydd i geisio cael gwared ar dlodi tanwydd erbyn 2035 wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, a hynny ar ôl iddi fethu targedau blaenorol.

Mae'n cynnwys diwygio'r meini prawf ar gyfer pa gartrefi sy'n gymwys am welliannau effeithlonrwydd ynni am ddim.

Ers 2008, mae 'na le i gredu bod lefelau tlodi tanwydd yng Nghymru wedi mwy na haneru.

Ond dywedodd gweinidog yr amgylchedd Lesley Griffiths fod 155,000 o gartrefi yn dal i'w chael hi'n anodd fforddio cyflenwad ynni digonol.

Mae targedau statudol a osodwyd gan y llywodraeth i ddileu tlodi tanwydd ymhlith grwpiau bregus erbyn 2010, mewn tai cymdeithasol erbyn 2012 ac ar draws pob cartref erbyn 2018, wedi'u methu, dolen allanol, yn ôl adroddiad diweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru.

Beio polisïau llymder Llywodraeth y DU, a oedd wedi "tanseilio ein hymdrechion i gyrraedd y targedau hyn", wnaeth gweinidogion Llywodraeth Cymru ar y pryd.

Wrth lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau newydd i bara tan ddiwedd y flwyddyn, dywedodd Ms Griffiths fod pandemig Covid-19 wedi golygu bod gan gartrefi pobl "fwy o rôl flaenllaw yn ein bywydau bob dydd, gan gynyddu'r ynni ry'n ni'n ei ddefnyddio".

"Disgwylir i hyn barhau, gyda'r posibilrwydd o filiau uwch wrth i ni gyrraedd yr hydref a'r gaeaf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wrth i fwy o bobl weithio o gartref yn sgil Covid-19, mae'r llywodraeth yn rhagweld biliau ynni uwch yn ystod yr hydref a'r gaeaf i ddod

Mae'r cynllun newydd yn cynnwys parhau i fuddsoddi yn rhaglen Cartrefi Cynnes y llywodraeth, sy'n sicrhau gwelliannau effeithlonrwydd ynni.

Ond bydd y meini prawf ar gyfer cymorth yn cael eu diwygio er mwyn helpu pobl â chyflyrau iechyd, rhai sydd ar incwm isel a chymunedau gwledig.

Dywedodd y llywodraeth fod y rhaglen hon a'i rhagflaenydd wedi helpu i godi tua 177,000 o gartrefi yng Nghymru allan o dlodi tanwydd ers 2008.

Bydd gwasanaeth arall i ddarparu cyngor i bobl yn fwy cyffredinol ar arbed arian a lleihau'r defnydd o ynni yn cael ei sefydlu yn dilyn ymgynghoriad hefyd.

Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd yn paratoi cynllun gwydnwch ar gyfer y gaeaf i flaenoriaethu pobl sy'n ei chael yn anodd talu cost eu hanghenion tanwydd domestig ac felly mewn perygl o fynd yn sâl neu farw o ganlyniad i fyw mewn cartref oer.

Bydd ystadegau ar ynni domestig cartrefi Cymru yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol i helpu dangos pa gymunedau sy'n wynebu'r risg uchaf o dlodi tanwydd, ac adolygiad o berfformiad y llywodraeth tuag at nod o'i waredu'n llwyr erbyn 2035 bob dwy flynedd.

Dywedodd Ms Griffiths y byddai'r cynllun newydd yn gwneud "cyfraniad allweddol i'n hymdrechion i fynd i'r afael â thlodi o bob math", yn ogystal â helpu tuag at ddatgarboneiddio tai yng Nghymru er mwyn taclo newid hinsawdd.