£60,000 i gynnal a chadw capel Tabernacl Treforys
- Cyhoeddwyd
Mae un o eglwysi enwocaf Cymru wedi cael cymorth i helpu cynnal yr adeilad a delio â heriau'r pandemig tra bo'r drysau ynghau.
Bydd grant o dros £60,000 i gapel Tabernacl Treforys gan Gyngor Abertawe yn helpu i ymdopi â'r incwm mae'r Eglwys yn ei golli am nad ydy grwpiau cymunedol yn gallu cwrdd yno am y tro.
Fe fydd yr arian hefyd yn talu am waith cynnal a chadw hanfodol a gosod band eang yn yr adeilad, sy'n un o 12 yn unig o gapeli rhestredig Gradd I yng Nghymru.
Fe agorwyd y Tabernacl yn 1870, a dywedir mai dyma'r "capel mwyaf, y crandiaf a'r drutaf a adeiladwyd yng Nghymru".
Mae'r safle fel arfer yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymarferion corau, oedfaon a chyngherddau, ond fe ddaeth hynny i ben dros nos y llynedd oherwydd y pandemig.
Mae'r adeilad hefyd yn ennill incwm gyda'r gwahanol weithgareddau sy'n cael eu cynnal yno - o gyfarfodydd y gymdeithas hanes leol i ddosbarthiadau dysgwyr.
Mae ymddiriedolaeth gymunedol wedi ei ffurfio i fod yn gyfrifol am yr adeilad a'r gweithgareddau sy'n digwydd yno.
Dywedodd yr organydd, ac un a fu'n gadeirydd pwyllgor llywio y Tabernacl, Huw Tregelles Williams: "Wedi cyfarfodydd gyda'r llywodraeth a'r cyngor fe gomisiynwyd astudiaeth o opsiynau am ddyfodol cynaliadwy.
"Y ddau brif argymhelliad oedd y dylai'r gynulleidfa gael ei rhyddhau o'r baich gofalaeth am yr adeilad, gan ffurfio ymddiriedolaeth newydd o'r gymuned letach i sicrhau hynny.
"Yr ail oedd ailgynllunio'r festrïoedd niferus sydd ar lawr isa'r adeilad fel canolfan gymunedol amlbwrpas.
"Gobaith y llywodraeth a Chyngor Abertawe yw y bydd y prosiect yn llwyddiant, ac efallai yn esiampl i gynulleidfaoedd eraill ym meddiant adeiladau na fedr eu hailbwrpasu mewn modd sylfaenol - yn esiampl o ffyrdd newydd i ddiogelu dyfodol ein hadeiladau gorau."
'Troi'r diffyg gweithgaredd yn fantais'
Mae Jaqualyn Box o Gyngor Abertawe yn swyddog datblygu gyda chynllun capel Tabernacl, a hi sy'n gyfrifol am yr ymdrech i sicrhau grantiau i'r adeilad.
"Yn drist iawn, ar ôl treulio'r flwyddyn yn adeiladu gweithgareddau addawol, fe ddaeth y pandemig â phopeth i ben," meddai.
Er y diffyg incwm, mae Ms Box wedi llwyddo i "droi'r diffyg gweithgaredd yn fantais", gan greu cynllun busnes a sicrhau grantiau i atgyweirio'r adeilad.
"Dwi'n cofio canu yno fel merch ysgol a rhyfeddu ar y capel, a dyna pam rwy'n benderfynol i sicrhau fod y cynllun yn llwyddo," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd1 Medi 2017