Y Gynghrair Genedlaethol: Altrincham 1-2 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi codi i'r seithfed safle yn y Gynghrair Genedlaethol yn dilyn buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Altrincham nos Fawrth.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi 36 munud, wrth i Kwame Thomas rwydo o groesiad Reece Hall-Johnson.
Ond roedd Altrincham yn gyfartal ar ddechrau'r ail hanner wedi i Ryan Colclough sgorio gyda tharan o ergyd heibio i'r golwr Christian Dibble
Gydag ychydig dros 20 munud yn weddill aeth Wrecsam yn ôl ar y blaen, gyda Thomas yn sgorio ei ail gôl wedi i'r tîm cartref fethu â chlirio'r bêl o gic gornel.
Mae'r canlyniad yn golygu bod y tîm o Gymru'n codi dau safle yn y Gynghrair Genedlaethol i seithfed yn y tabl.