Ymestyn cytundeb brechlyn cwmni yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Wockhardt yn Wrecsam wedi cael estyniad i'w cytundeb gyda Llywodraeth y DU i gynhyrchu brechlynnau Covid-19.
Dywedodd Llywodraeth y DU y bydd 40 o swyddi newydd yn cael eu creu yn y ffatri o ganlyniad i'r cyhoeddiad.
Cafodd y cytundeb gwreiddiol ei ymestyn o 18 i 24 mis, tan Awst 2022.
Cwmni CP Pharmaceuticals - is-gwmni Wockhardt - sydd â'r gwaith o gwblhau'r brechlynnau yn barod i'w dosbarthu.
Dywedodd Dr Habil Khorakiwala, cadeirydd Wockhardt: "Rydym yn hapus i ymestyn ein cydweithrediad gyda Llywodraeth y DU i wneud y brechlynnau ar gael, ac mae'r trefniant yn destun balchder mawr... mae'n cadarnhau ein hymrwymiad byd eang yn y frwydr yn erbyn pandemig digynsail."
Mae cwmni Wockhardt wedi cael presenoldeb yn Wrecsam am dros ddau ddegawd, ac mae'n cyflogi dros 400 o bobl ar eu safle yno.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd3 Awst 2020