Y Swyddfa Dywydd yn cyhoeddi dau rybudd am eira a rhew
- Cyhoeddwyd
Gallai rhannau helaeth o Gymru gael eu taro gan eira a rhew ddiwedd yr wythnos.
Mae'r Swyddfa Dywydd, dolen allanol wedi cyhoeddi dau rybudd melyn am dywydd garw.
Mae'r cyntaf - sydd ar gyfer rhannau o Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro - yn dod i rym am 21:00 nos Iau ac yn parhau tan 11:00 fore Gwener.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae hyd at fodfedd (3cm) o eira yn bosib mewn rhannau mewndirol, gallai effeithio ar y lonydd a'r rheilffyrdd a dylai cerddwyr gymryd gofal rhag llithro ar rew.
Mae'r ail rybudd mewn grym ar gyfer dydd Sadwrn, ac mae'n berthnasol i bob sir ar wahân i Ynys Môn, Pen-y-Bont ar Ogwr, Caerdydd, Casnewydd, Sir Benfro a Bro Morgannwg.
Mae a hyd at 6 modfedd (15cm) o eira'n bosib dir uchel.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2021