Cwest: Dyn wedi marw wrth achub ei blant o'r môr

  • Cyhoeddwyd
Jonathan StevensFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y crwner bod achos Jonathan Stevens yn un "gwirioneddol drasig"

Mae cwest yng Ngwynedd wedi clywed y bu farw dyn ar ôl rhuthro i'r môr er mwyn achub dau o'i blant ar draeth Y Bermo y llynedd.

Cafodd Jonathan Stevens - 36 oed o Telford a thad i saith o blant - ei ddisgrifio fel "arwr am achub bywydau ei blant" yn dilyn y digwyddiad ym mis Awst.

Yn y gwrandawiad yng Nghaernarfon ddydd Mercher daeth y Crwner Katie Sutherland i'r casgliad bod y farwolaeth yn achos o anffawd.

Cafodd Mr Stevens ei dynnu gan gerrynt cryf wrth geisio achub dau o'i blant oedd wedi mynd i drafferthon tra'n chwarae yn y môr.

Fe gafodd yntau a thri pherson arall eu hachub o'r dŵr wedi i hofrennydd Gwylwyr y Glannau ac ambiwlans awyr gael eu hanfon i'r ardal.

Cafodd Mr Stevens ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor ond bu farw yno.

Disgrifiad o’r llun,

Aeth Jonathan Stevens i drafferthion ar draeth Y Bermo ym mis Awst 2020

Dywedodd y crwner bod yr achos yn un "gwirioneddol drasig".

"Mewn ymdrech i achub ei blant fe gollodd ei fywyd ei hun. Mae'n pwysleisio peryglon y môr, yn enwedig pan fo'r amodau yn edrych yn fwyn," meddai.

Wedi ei farwolaeth dywedodd ei chwaer, Kim Stevens ei fod yn "fab a brawd rhyfeddol i'w bum chwaer".

"Mae wedi marw'n arwr am achub bywydau ei blant a pheryglu ei fywyd ei hun," meddai.

"Bydd wastad yn cael ei gofio - dyn rhyfeddol, brawd, mab a thad. Rydyn ni gyd wedi ein chwalu'n deilchion."

Wedi'r digwyddiad dywedodd arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, y byddai mesurau diogelwch ar draethau'r sir yn cael eu hadolygu.