Covid-19: 'Nifer o blant yn poeni, yn unig ac yn drist'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gwaith cartrefFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd nifer o blant eu bod yn poeni eu bod ar ei hôl hi gyda gwaith ysgol

Mae ymgynghoriad gan Gomisiynydd Plant Cymru yn dangos fod y pandemig wedi cael effaith "ddinistriol" ar bob grŵp oedran rhwng 3 ac 18 oed.

Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys safbwyntiau bron i 20,000 o blant a phobl ifanc rhwng 3 a 18 oed yn ystod y cyfnod clo presennol yng Nghymru.

Dywed y Comisiynydd Sally Holland ei bod yn amlwg bod y pandemig yn cael effaith gwbl ddinistriol er gwaethaf pob ymdrech gan sefydliadau addysg.

"Mae'n holl bwysig i'r llywodraeth a sefydliadau ddangos i blant a phobl ifanc nad ydynt wedi cael eu hanghofio," meddai.

Yr hyn mae'r ymgynghoriad yn ei ddangos:

'Rhwystredig a blin'

Nododd y rhan fwyaf o blant eu bod yn rhwystredig a blin ar adegau. Roedd plant rhwng tair a saith oed yn gweld eisiau eu ffrindiau, aelodau teulu a phrofiadau.

O ganol yr arddegau ymlaen, roedd arwyddion o ofidiau pellach - roedd rhai yn poeni am arholiadau a'u dyfodol.

Dywedodd pobl ifanc 17 a 18 oed a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod yn bryderus y 'rhan fwyaf o'r amser'.

Unigrwydd

Dywedodd 14% o'r plant rhwng 7 ac 11 oed eu bod yn teimlo'n unig y "rhan fwyaf o'r amser".

Mae'r ymgynghoriad yn dangos bod teimladau o unigrwydd yn cynyddu gydag oedran - dywedodd 40% o bobl ifanc 17 oed eu bod yn teimlo'n unig y rhan fwyaf o'r amser.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wrth iddyn nhw fynd yn hŷn roedd plant yn teimlo eu bod yn fwy unig, medd yr arolwg

Addysg

Mae dros hanner y bobl ifanc rhwng 12 a 18 oed yn mwynhau dysgu ar eu cyflymder eu hunain o gartref, ond mae llawer yn poeni am fod ar ei hôl hi gyda'r gwaith.

Nododd mwyafrif helaeth y bobl ifanc rhwng 15 a 18 oed eu bod yn poeni am "gwympo tu ôl" ac am eu cymwysterau.

Dywedodd 69% o'r rhai rhwng 15 a 18 oed nad oedd ganddynt lawer o gymhelliant i wneud gwaith ysgol.

Anghydraddoldebau

Mae'r arolwg yn dangos fod plant sy'n wynebu mwy o rwystrau rhag cael mynediad at eu hawliau wedi wynebu mwy o drafferthion ar gyfartaledd na'u cyfoedion.

Mae plant a phobl ifanc anabl yn fwy tebygol o boeni am y coronafeirws, yn fwy tebygol o deimlo'n drist, ac yn fwy tebygol o deimlo'n anniogel.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae plant a phobl ifanc Duon, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig eraill yn llai tebygol o ddweud eu bod nhw'n teimlo'n ddiogel na'u cyfoedion

Mae plant a phobl ifanc Duon, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig eraill yn fwy tebygol o deimlo'n unig ac yn llai tebygol o ddweud eu bod nhw'n teimlo'n ddiogel na'u cyfoedion.

Ond er gwaetha'r pryderon mae llawer yn sôn am brofiadau cadarnhaol - mae nifer yn mwynhau treulio amser gartref a dywed llawer eu bod yn cael cefnogaeth dda gan ysgolion a gweithwyr ieuenctid.

Profiadau Finley Mills o'r Rhyl

Un o'r bobl a atebodd yr arolwg yw Finley Mills, 16 oed - disgybl yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Dywed ei fod e'n teimlo'n ffodus am fod profiad y cyfnod clo diwethaf wedi bod yn un cadarnhaol ond bod nifer o'i ffrindiau yn dioddef.

"I fi mae'r cyfnod clo yma yn llawer gwell. Gyda'r un cyntaf mi wnes i syrthio yn ôl gyda fy ngwaith ysgol ac roedd hi'n anodd cael motivation - roedd o'n amser anodd iawn ond tro yma mae wedi bod yn iawn.

Disgrifiad o’r llun,

'Mae'r cyfnod clo yma wedi bod yn well,' medd Finley Mills

"Ar y penwythnos 'dan ni fel teulu wedi bod yn gneud llawer mwy o betha' gyda'n gilydd.

"Mae'r cyfnod clo wedi dangos i fi fy mod yn berson lwcus o ran iechyd meddwl - mae rhai o fy ffrindiau wedi cael amser anodd iawn."

Profiad Hadya Beki o Gasnewydd

Mae Hadya Beki, 13 oed, yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gwent Is Coed ac iddi hi mae'r cyfnod wedi bod yn eithaf anodd. Fe roddodd hi hefyd ei sylwadau i'r ymgynghoriad.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Hadya Beki o Gasnewydd ei bod yn colli merched eraill

"Dyw e ddim yn hawdd i gadw trac ar waith ysgol ac mae llai o motivation gan nad yw'r athro yn sefyll yna o'ch blaen chi," meddai.

"Dau frawd sydd gen i ac felly dwi'n colli cwmni merched eraill - dim ond Mam sydd gyda fi. Does neb arall yn mynd trwy'r un peth â fi adre.

"Dwi'n colli gweld ffrindiau ac yn y cyfnod clo hwn mae'n dywyll ac mae'n rhy oer i fynd allan.

"Ond dwi wedi dysgu coginio, mae fy sgiliau gymnasteg i wedi gwella ac dwi'n darllen mwy."

Wrth siarad am y canfyddiadau, dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

"Mae'n amlwg drwy ganlyniadau'r arolwg bod y pandemig yn cael effaith ddinistriol ar lawer o fywydau ifanc, er gwaetha ymdrechion enfawr yr ysgolion, colegau, gweithwyr ieuenctid, gwasanaethau cymdeithasol a'r gwasanaethau iechyd.

"Unwaith eto, rydyn ni wedi gweld bod y pandemig wedi cael effaith anghyfartal ar blant a phobl ifanc, ac er bod rhai wedi parhau i ffynnu yn ystod y cyfnod yma, mae eraill wedi wynebu anawsterau niferus.

"Mae'n ddealladwy mai atal marwolaethau a salwch difrifol yw'r brif flaenoriaeth, ond mae'r canlyniadau yma'n cynnig llwybr clir i Lywodraeth Cymru o ran yr hyn sydd angen ei flaenoriaethu ar gyfer plant a phobl ifanc yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf."

Dywedodd hefyd ei bod amlwg bod plant a phobl ifanc o bob oed yn gweld eisiau nid yn unig dysgu ffurfiol, ond hefyd y cymdeithasu a'r gefnogaeth y mae'r ysgol a'r coleg yn ei chynnig.

Disgrifiad o’r llun,

'Rhaid cyfleu'r neges i blant nad ydyn nhw wedi cael eu hanghofio,' medd Sally Holland

"Pan fyddan nhw'n dychwelyd, bydd angen cefnogaeth arnyn nhw gyda phynciau academaidd, ac mae'n bosib y bydd angen blaenoriaethu amser i siarad am eu profiadau, cyfleoedd i fod gyda ffrindiau a chwarae, a hefyd cyfle i ystyried a bod yn falch o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni yn ystod y pandemig - o ddysgu annibynnol i gefnogi eraill.

"Mae ganddon ni i gyd ran i'w chwarae - fel rhieni, gwasanaethau cyhoeddus, cyflogwyr, prifysgolion, y wasg a'r llywodraeth - i gyfleu yn glir i'n plant a'n pobl ifanc nad ydyn nhw wedi cael eu hanghofio, ein bod ni'n cydnabod yr heriau a'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni yn ystod y cyfnod yma, ein bod ni yma i'w cefnogi nhw, ac na fyddwn ni'n gadael iddyn nhw golli allan yn yr hirdymor."

Tystiolaeth bwysig

Mae canlyniadau'r arolwg wedi cael eu cyflwyno i TAG, sef Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, fel ei fod yn gallu asesu sut mae cael cyn lleied o effaith â phosib wrth ystyried y dyfodol.

Bydd y canlyniadau hefyd yn cael eu hanfon at SAGE, sef Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y Deyrnas Unedig, er mwyn iddyn nhw eu hystyried pan yn trafod ailagor ysgolion.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cydweithio gyda'r Comisiynydd Plant ar y gwaith hwn a bod canlyniadau'r arolwg cyntaf wedi gael eu defnyddio'n helaeth wrth ddod i benderfyniad ar amrywiaeth o benderfyniadau polisi.

Ychwanegodd: "Nesaf bydd canlyniadau'r arolwg yma yn cael eu hystyried ac maent yn dystiolaeth allweddol wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol."