Cymru'r 'wlad gyntaf i gyrraedd y targed brechu'
- Cyhoeddwyd
Cymru ydy'r wlad gyntaf yn y DU i gynnig brechlyn Covid i'r pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford fod pawb dros 70 oed, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, gweithwyr cartrefi gofal pobl hŷn a phobl sy'n hynod fregus, wedi cael cynnig dos cyntaf.
Roedd Cymru a gwledydd eraill y DU wedi anelu at gyrraedd y nod yma erbyn canol Chwefror.
Wrth gael ei holi am y garreg filltir nesaf yng nghynhadledd y llywodraeth ddydd Gwener, dywedodd Mr Drakeford fod Llywodraeth Cymru yn paratoi i gael pum grŵp arall wedi'u brechu erbyn y gwanwyn.
Dywedodd y bydd targed mwy penodol yn cael ei gyhoeddi yn y dyddiau nesaf.
Daw'r newyddion wedi rhybudd fod cyflenwadau'n mynd i grebachu yn yr wythnosau nesaf, gyda nifer o ganolfannau brechu yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn cau am bythefnos.
Cymru sy'n arwain y DU o safbwynt canran y boblogaeth - 22.7% yn ôl ffigyrau dydd Gwener - sydd wedi derbyn dos cyntaf o'r brechlyn.
Dywedodd Mr Drakeford: "Y brechlyn yw prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru a'r GIG yng Nghymru.
"Mae cyflawni'r garreg filltir gyntaf hon a chynnig y brechlyn i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf - y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn sgil y coronafeirws - yn ymdrech aruthrol.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gweithio bob awr o'r dydd i gyrraedd y pwynt hwn.
"Wrth gwrs, dim ond megis dechrau mae'r gwaith caled - mae llawer iawn mwy o bobl i'w brechu eto a llawer o ddosau i'w rhoi o hyd."
Yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Gwener, ychwanegodd y Prif Weinidog nad yw hi'n gystadleuaeth rhwng gwledydd y DU o ran brechu.
"Ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyrraedd y garreg filltir yma, ond bydd eraill yn dilyn o fewn y dyddiau nesaf," meddai.
"Dydyn ni ddim yn cystadlu gyda'n gilydd - mae pob rhan o'r DU yn gweithio mor galed â phosib er mwyn cyrraedd y garreg filltir yma."
'Stori o lwyddiant'
Cafodd y newyddion ei groesawu gan y gwrthbleidiau yn y Senedd.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies fod y newyddion yn "stori o lwyddiant i Brydain a Chymru".
Ychwanegodd ei fod yn dangos fod "penderfyniad beiddgar llywodraeth y DU i beidio bod yn rhan o gynllun trychinebus yr UE wedi cael ei gyfiawnhau, gan sicrhau fod gan Gymru y brechlynnau ar gael i warchod y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas ac i gyrraedd y targed yma".
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod y diolch i staff y GIG a gwirfoddolwyr "fod Cymru wedi medru cyflymu'r ymdrech frechu i'r lefel presennol".
Ychwanegodd y byddai Plaid Cymru yn parhau i alw am i "bawb mewn safle gofal, nid dim ond y rhai oedrannus, i gael eu brechu fel mater o flaenoriaeth, ac i weithwyr allweddol mewn ysgolion, y gwasanaethau brys a thrafnidiaeth gyhoeddus i gael eu rhoi yn y system flaenoriaeth yn gynt".
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart bod cyrraedd y garreg filltir yn dangos yr ymdrech a wnaed.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2021