Diogelu dogfennau prin all roi goleuni ar fywyd Ivor Novello
- Cyhoeddwyd
Roedd y Cymro Ivor Novello yn un o sêr ffilm a llwyfan mwyaf ei gyfnod, yn gerddor dawnus y mae ei ganeuon yn dal i gael eu canu. Ond ychydig o hanes ei fywyd personol sydd wedi goroesi.
Ond rŵan mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi prynu casgliad o ddogfennau a phapurau prin maen nhw'n gobeithio fydd yn rhoi goleuni pellach ar fywyd y cerddor a anwyd yn David Ivor Davies yng Nghaerdydd yn 1893.
"Cyn y Nadolig mi gawson ni gynnig casgliad arbennig o bapurau yn ymwneud â fo ac mi roedd rhaid inni edrych ar rhain yn fwy gofalus," meddai Dr Maredudd ap Huw, curadur llawysgrifau yn y Llyfrgell ar Radio Cymru.
"Mae Ivor Novello ei hun yn dipyn bach o enigma, does na ddim lot fawr o stwff amdano yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae o'n gymaint o enigma mae rhywun yn dechrau gofyn pam?
Mae o'n gymaint o enigma mae rhywun yn dechrau gofyn pam?
"Mae dogfennau, papurau a ffynonellau gwreiddiol amdano fo yn hynod, hynod o brin ac mewn achos felly mae rhywun yn aml iawn yn gofyn oes 'na ryw reswm pam mae'r deunydd yma wedi ei gadw [nôl]?"
Un o'r rhesymau posib meddai Dr ap Huw, ydy oherwydd ei fod yn hoyw.
"Roedd o mewn perthynas hir-dymor gyda'r actor Bobbie Andrews oedd yn cymryd rhan mewn nifer o'i sioeau cerdd mewn cyfnod pan fyddai hynny i lawer iawn o bobl wedi bod yn sgandal.
"Ac efallai felly pan fu farw yn gynamserol o ifanc [58 mlwydd oed] fod ei ysgutorion [y bobl sy'n gyfrifol am weithredu ewyllys] wedi mynd ati i glirio lot o'i bapurau. Oherwydd hynny mae unrhyw ddeunydd yn ymwneud â'i fywyd personol o a'i yrfa fo yn hynod, hynod o brin."
Dywedir hefyd i Novello fod yn gariad i'r bardd rhyfel Siegfried Sassoon.
Fe wnaeth hefyd dreulio cyfnod byr yn y carchar yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac efallai bod hynny wedi chwarae ei ran: "Er iddo gyfansoddi Keep The Home Fires Burning i godi moral yn ystod y rhyfel cyntaf, yn ystod yr ail ryfel mae'n treulio mis mewn carchar am gamddefnyddio cwpon petrol mewn cyfnod o rations."
Atgofion cyfeillion
Roedd y dogfennau sydd wedi dod i'r llyfrgell yn perthyn i Walter James MacQueen-Pope - hanesydd y theatr yn Lloegr ac awdur cofiant Novello a gyhoeddwyd yn 1951, Ivor: The Story of an Achievement, a chyfaill agos iddo.
Mae dros 500 o ddogfennau oedd yn sail i'r cofiant wedi eu prynu yn dilyn marwolaeth merch MacQueen-Pope ac maent yn cynnwys llythyrau ac atgofion gan gyfeillion a chydweithwyr.
Cafodd rhywfaint o'r wybodaeth ei chyhoeddi yn y cofiant ond mae llawer o'r deunydd heb weld golau dydd eto, meddai Dr ap Huw.
Ganwyd Novello yn Llwyn-yr-eos, Heol Ddwyreiniol Y Bont Faen yng Nghaerdydd, cartref ei rieni David Ivor Davies a Clara Novello Davies.
Roedd ei fam, Clara, yn gantores, cyfeilydd ac athrawes ganu oedd yn defnyddio'r llys-enw Pencerddes Morgannwg (cafodd ei henwi ar ôl y soprano o dras Eidalaidd, Clara Anastasia Novello).
Dangosai Ivor allu cerddorol o oed ifanc; enillodd am ganu dan 12 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon yn 1906 ac ar ôl ennill ysgoloriaeth i Ysgol Gorawl Magdalen yn Rhydychen cafodd yr enw Welsh Prodigyoherwydd ei ddawn ysgrifennu.
Symudodd y teulu i fyw yn Llundain pan oedd Ivor yn 15 mlwydd oed.
Daeth yn actor, dramodydd, a chyfansoddwr caneuon a sioeau cerdd poblogaidd yn y West End.
Seren ei gyfnod
Dydi holl gynnwys y casgliad heb ei astudio eto ond mae ambell gofnod yn rhoi darlun o faint yn union o seren oedd Novello yn ei gyfnod, meddai Dr ap Huw.
Er enghraifft mae llythyr gan ei libretydd, Christoper Hassal, yn 1951 yn darlunio effaith Ivor Novello ar gynulleidfaoedd:
I think it's worth mentioning, that he was probably the first star to be mobbed by his fans now so common in premiers, but then it was everywherein the provinces and almost every night.
And because of the stage, not film performance. At Newcastle they actually pulled the door off his car. At least once when I was with him they pulled the belt off his coat.
"Dyna'r math o mob oedd tu allan i theatrau'r cyfnod ac yn gwirioni ar Ivor Novello," meddai Dr ap Huw "[roedd yn] ŵr hardd iawn, oedd yn matinee idol. Roedd wedi gwneud llawer iawn o silent movies gan gynnwys un gan Alfred Hitchcock.
Falle bod ni wedi anghofio faint o seren oedd y gŵr yma - ond yn ei gyfnod roedd o yn ddisglair tu hwnt.
"[Roedd yn] seren go iawn, seren oedd yn disgleirio yn hynod lachar yn ffurfafen y 20au a'r 30au.
Gwybodaeth newydd?
"Y gobaith ydy fod y casgliad yma yn mynd i ddod â pethau newydd i'r fei wrth i bobl fynd ati i ddadelfennu cofiant McQueen-Pope i weld beth a gyhoeddwyd yn gyhoeddus a beth efallai nas defnyddiwyd oherwydd rhesymau penodol ar y pryd."
Sefydlwyd Gwobr Ivor Novello yn y 1950au i anrhydeddu talentau awduron a chyfansoddwyr caneuon.
Mae'r Gwobrau Ivor Novello blynyddol wedi eu hennill gan enwau mawr y byd cerddorol gan gynnwys Elton John, Lennon & McCartney, George Michael ac yn fwy diweddar Adele ac Ed Sheeran.
Hefyd o ddiddordeb: