Gwreiddiau Cymraeg Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd Bae Caerdydd yn fôr o Gymraeg yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol 3-11 Awst 2018 ond mae hi'n iaith mae hen ardal ddociau Caerdydd wedi hen arfer â'i chlywed, meddai Dr Dylan Foster Evans.
Mae Dr Evans, pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, yn rhoi darlith am hanes y Gymraeg yn y brifddinas yn ystod yr ŵyl.
Efallai bod rhai yn credu mai "iaith ddŵad" ydy'r Gymraeg yng Nghaerdydd ond mewn erthygl i Cymru Fyw bu Dr Evans yn egluro fod gwreiddiau'r iaith yr un mor ddwfn yn y brifddinas ag unman arall yng Nghymru.
Dyma rai o'i ffeithiau am yr iaith mewn gwahanol rannau o'r ddinas ganrif a mwy yn ôl:
Sgwâr Loudoun a'r dociau
Roedd pob math o ieithoedd i'w clywed yn yr hen ddociau, a'r Gymraeg yn eu mysg.
Rhyw 10 munud o gerdded o brif ardal yr Eisteddfod ger Canolfan y Mileniwm ar hyd Bute Street tuag at ganol y ddinas, mae hen Sgwâr Loudoun lle byddai sŵn canu emynau Cymraeg i'w glywed ar y Sul ar un adeg.
"Roedd rhai o berchnogion y llongau yn Gymry Cymraeg, Cardis a phobl o Sir Benfro ac o'r gogledd," meddai Dr Dylan Foster Evans.
"Felly roedd tai lojins ar gyfer Cymry Cymraeg a chapel Cymraeg ar Loudoun Square, calon yr hen Diger Bay, lle'r oedd teulu Ivor Novello yn aelodau."
Un o ardaloedd mwyaf Cymraeg Caerdydd yn Oes Fictoria tua 1850-1860 oedd Tiger Bay, meddai Dr Evans. Yma roedd tri chapel ac eglwys Gymraeg ar gyfer y llongwyr a'r morwyr Cymraeg.
"Mae 'na ddisgrifiadau o gerdded i lawr y stryd yna yn clywed yr holl ieithoedd gwahanol ac emynau Cymraeg yn eu canol," meddai.
"Mae 'na sôn am Arabiaid a Sbaenwyr rhugl eu Cymraeg yn y dociau ac roedd yr ardal, fel gweddill Caerdydd, yn gefnogol i ymgyrch i ddysgu Cymraeg yn yr ysgolion ar ddiwedd Oes Fictoria."
Dywed Dr Evans fod dyn o'r enw John Hobson Matthews, Sais o dras Gernywaidd a oedd wedi dysgu Cymraeg, wedi cofnodi atgofion siaradwyr Cymraeg y ddinas.
"Mae 'na ddisgrifiad hyfryd gan John Hobson Matthews yn sôn am fynd ar fws a chlywed bachgen bach o'r enw Dimitri Gambetti yn siarad Cymraeg, bachgen o deulu Groegaidd o'r Eidal yn wreiddiol a oedd yn rhugl mewn Saesneg, Cymraeg a Groeg.
"Roedd wedi ei fagu mewn tafarn ar Bute Street ac wedyn gan deulu ei fam ym Maesteg.
"Ath nôl i fyw i Faesteg ac roedd yn flaenor yn y capel annibynwyr Cymraeg ac yn ffigwr amlwg yn yr eisteddfodau lleol."
Os daliwch chi i fynd ar hyd Bute Street o Loudoun Square fe ddowch i olygon cefn siop John Lewis ynghanol y ddinas ac ar y gornel gyda Custom House Street ar dop Bute Street y sefydlwyd Cymdeithas Cymrodorion Caerdydd yn 1885, mewn lle o'r enw Gordon Coffee Tavern.
Roedd y caffi'n eiddo i Edward Thomas, Cymro Cymraeg amlwg yn y ddinas ar y pryd oedd â'r enw barddol, Cochfarf.
Grangetown
I'r gogledd orllewin o leoliad yr Eisteddfod mae ardal Grangetown.
Cyn Oes Fictoria roedd hon yn ardal wledig lle'r oedd cymuned o ffermwyr Cymraeg eu hiaith yn byw.
Fferm y Grange a roddodd ei enw i'r rhan yma o Gaerdydd ac mae'r tŷ yn dal i'w weld ar y gornel rhwng Clive Street a Stockton Street.
"Mae hen fferm y Grange yn dal yna yn Grangetown - roedd y teulu yna'n siarad Cymraeg tan ddatblygwyd yr ardal yn oes Fictoria," meddai Dr Evans.
Heol y Grange oedd yr enw ar y stryd a elwir bellach yn Sloper Road.
"Roedd 'na hefyd hen deuluoedd yn ardaloedd Treganna, Pwll-coch a Threlái - Ely Farm er enghraifft - yn amlwg iawn yn y gymdeithas Gymraeg. "
Canol y ddinas
Fe fyddai'r Gymraeg i'w chlywed ar strydoedd y dref, yn enwedig ar ddyddiau gŵyl pan fyddai'r glowyr yn dod lawr o'r cymoedd neu ar ddiwrnod marchnad, meddai Dr Evans.
"Mae 'na gŵyn yn un o'r papurau newydd ar ddechrau'r 20fed ganrif fod pobl ar ddiwrnod gemau rhyngwladol yn clywed y Gymraeg yn cael ei defnyddio i bennu prisiau gyda'r puteiniaid," meddai.
"Roedd o leiaf un siaradwraig Cymraeg yn rhedeg puteindy yng nghanol Caerdydd yn Oes Fictoria heb allu siarad fawr o Saesneg.
"Roedd Elizabeth George yn rhedeg tafarn Dinas Arms, oedd hefyd yn buteindy, a hynny ar ei phen ei hun. Mewn achos llys yng Nghaerdydd yn 1858 bu'n rhaid cael cyfieithydd iddi."
Yn 1828 codwyd capel Cymraeg Ebeneser lle sydd bellach o dan siop Debenhams yng nghanol y ddinas ac fe gwynodd y gweinidog fod y blaenoriaid wedi codi capel mewn lle mor ddiarffordd allan ynghanol y caeau.
Bellach, datblygiad siopau Dewi Sant 2 sydd yn yr ardal "wledig" yma.
Sblot
I'r dwyrain o'r dref, ddim ymhell o Newport Road mae ardal Sblot.
Yn ôl Dr Evans, daeth yn ardal nodedig am ei Chymraeg wedi i waith dur Dowlais symud yno a denu gweithwyr dur Cymraeg eu hiaith o'r cymoedd.
A chanrifoedd cyn hynny, roedd rhai o noddwyr y beirdd yn byw mewn ardaloedd fel Sblot, a Threlái hefyd.
"Mae 'na draddodiad barddol yn yr ardaloedd yna yn mynd nôl yn sicr i gyfnod Elisabeth y Gyntaf ac mae cyfeiriadau at Sblot a Threlái i'w cael yn y cywyddau," meddai Dr Foster Evans.
Trelái
Yn ogystal â chyfeiriadau mewn hen farddoniaeth Gymraeg roedd y Gymraeg yn fyw ymysg hen gymuned amaethyddol Trelái.
Bu John Hobson Matthews yn casglu penillion ar lafar yn Nhrelái gan ffermwr o'r enw George Thomas oedd yn byw ger pont Trelái, a'u cyhoeddi gyda chyfieithiad.
"Roedd rhai ohonyn nhw mor anweddus nes y gwnaeth eu cyhoeddi nhw gyda'r cyfieithiad yn Lladin.
"Roedd yn teimlo'n ddiogel wedyn y byddai gwragedd neu weision ddim yn gweld y pethau anweddus oedd yn y llyfr gan mai dim ond dynion dysgedig fyddai'n deall y Lladin!"
Cathays a'r Rhath
Bydd llawer o fyfyrwyr Caerdydd yn gyfarwydd iawn ag ardal Cathays sydd yn cysylltu ardal y Rhath ag adeiladau'r brifysgol yn Park Place.
Roedd teulu Cymraeg yn byw ar fferm y Wedal Uchaf, lle mae mynwent Cathays heddiw.
Ann Davies, siaradwraig Gymraeg olaf y tir, oedd yr olaf o'r teulu i fyw yma yn y 19eg ganrif.
Erbyn 1897 y bwriad oedd defnyddio'r tir y Wedal Uchaf er mwyn ehangu'r fynwent ac wedi i Ann Davies farw rhoddwyd y tir i'r awdurdodau i greu'r fynwent fawr sydd yno bellach.
Mae Wedal Road yn dal i fod gerllaw.
Roedd teulu Cymraeg ei iaith yn byw ar fferm y Dderwen Deg yn y Rhath hefyd. Mae Fairoak Road yn dal i fod yn yr ardal honno.
Roedd llawer o'r teuluoedd amaethyddol yma yn perthyn i'w gilydd, meddai Dr Evans.
Roedd gan Ann Davies o Wedal Uchaf chwaer oedd wedi priodi i mewn i deulu ym Mhwll Coch, yn nhopiau Treganna a chwaer arall wedi priodi teulu o Drelái ac un arall yn Llaneirwg, a oedd yn siaradwyr Cymraeg hefyd.
"Tasach chi'n disgrifio bywyd y bobl yma pan oedden nhw'n ifanc - roedden nhw'n byw ar fferm gydag enwau caeau fel Weirglodd Wen ac fe fydden nhw'n mynd i'r capel ar ddydd Sul," meddai Dr Evans.
Cyrion y ddinas
Yn nes allan o'r ddinas fe barodd yr iaith fel iaith gynhenid yn hirach.
"Mae 'na ardaloedd sydd bellach yn rhan o'r ddinas a oedd tan yn bur ddiweddar â mwyafrif Cymraeg yn byw yno: ardaloedd gwledig fel Llys-faen ac ardaloedd mwy diwydiannol fel Gwaelod-y-Garth a Phen-tyrch ar droad yr 20fed ganrif," meddai Dr Evans.
"Roedd rhai o'r llefydd yma'n fwy Cymraeg na bron unrhyw le yng Nghymru rŵan."
Mae 'na recordiadau yn Sain Ffagan o siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd fel Llysfaen a Llaneirwg yn y 1950au yn siarad y dafodiaith leol yn y Gymraeg, sef y Wenhwyseg.
Mae ambell olion o'r dafodiaith yn dal i'w gweld, meddai Dr Evans, er enghraifft yn yr Eglwys Newydd mae Felindre Road.
"Mae'r arwydd ffordd bresennol yn dweud Felindre, efo 'e' ond mae yna hen arwydd efo 'a', Felindra - sef sut byddai'r Cymry Cymraeg lleol wedi ei ddweud," meddai.
"Mae 'na fynydd o ddeunydd difyr iawn sy'n mynd yn groes i'r canfyddiad, hyd yn oed ymysg y Cymry Cymraeg, nad ydyn nhw cweit yn perthyn. Fod pawb wedi symud yma yn y 1950au a bod neb cyn hynny - sy'n nonsens."
Mae Dr Dylan Foster Evans yn trafod hanes yr iaith am 13:00 ar 6 Awst ar stondin Shw'mae Caerdydd yn adeilad y Pierhead.