'Dos cyntaf o'r brechlyn i naw grŵp erbyn Ebrill'
- Cyhoeddwyd
Bydd y naw grŵp blaenoriaeth yng Nghymru wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn erbyn diwedd Ebrill, medd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Mae'r pedwar grŵp blaenoriaeth - y rhai dros 70, preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal, gweithwyr iechyd a chymdeithasol rheng flaen a phobl bregus - eisoes wedi cael cynnig y brechlyn.
Yn ei gyfweliad ar Politics Wales, dywedodd Mr Drakeford hefyd y bydd map a fydd yn arwyddo'r ffordd allan o'r cyfnod clo presennol yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener.
Ar ôl hanner tymor bydd plant tair i saith oed yn cael dychwelyd i'r ysgol ynghyd â rhai disgyblion sydd angen cwblhau gwaith ymarferol - mae'r union ddiwrnod yn ddibynnol ar benderfyniad y cyngor sir ar ba mor ddiogel yw hynny.
Yn ystod y cyfweliad, dywedodd Mr Drakeford na ellid fod yn disgwyl llawer mwy o lacio yn yr adolygiad diweddaraf o'r sefyllfa.
"Mae'n bosib y bydd mwy o hyblygrwydd i deuluoedd ac efallai bydd modd gwneud mwy o ddefnydd o'r tu allan ond fydd y cabinet ddim yn gwneud y penderfyniadau yna tan ddydd Iau," meddai.
Dywedodd hefyd ei fod yn gobeithio rhoi mwy o oleuni ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio i gael mwy o blant i ddychwelyd i'r ysgol wedi'r adolygiad nesaf ar 12 Mawrth.
Eisoes mae trafodaethau wedi'u cynnal am y posibilrwydd o agor y diwydiant twristiaeth erbyn y Pasg ond "gyda'r gofal eithaf".
Y disgwyl yw mai llety hunan-ddarpar fydd yn agor gyntaf ac mae Mr Drakeford wedi awgrymu na fydd tafarndai a bwytai yn agor ddechrau Ebrill.
O ddydd Llun ymlaen bydd yn rhaid i'r rhai sy'n cyrraedd Lloegr o 33 gwlad benodol aros mewn gwesty am ddeng niwrnod - gwestai sydd wedi cael eu dewis gan y llywodraeth. Bydd pobl sy'n cyrraedd Yr Alban o unrhyw wlad ar awyren yn gorfod hunanynysu mewn gwestai.
Ac o 4 o'r gloch fore Llun bydd pobl sy'n cyrraedd Lloegr a'r Alban o wledydd sydd ar y rhestr goch yn cael eu dirwyo os ydynt yn mynd yn groes i reolau'r cwrantin ac yn dod i Gymru.
Eisoes mae disgwyl i bobl pump oed a hŷn sy'n cyrraedd Cymru o dramor hunan-ynysu am ddeng niwrnod. Mae nhw hefyd yn gorfod cael prawf Covid ar yr ail a'r wythfed diwrnod o'r cyfnod ynysu.
'Byddai amrywiolyn arall yn gallu cau'r ysgolion'
Wrth siarad ar Sophy Ridge ar Sky dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y byddai cael amrywiolyn newydd arall yn ddigon i gau ysgolion.
"Fydd dim dewis arall," meddai, "os yw amgylchiadau yn newid wedi i ysgolion ailagor.
"Y cyngor gan y prif swyddog meddygol a gwyddonwyr yw i ni gyflwyno mesurau y mae modd eu gwyrdroi yn fuan petai rhaid.
"Byddwn yn cadw llygad barcud ar bethau wedi i blant y Cyfnod Sylfaen ddychwelyd i'r ysgolion," ychwanegodd.
Ar raglen Andrew Marr, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, bod yn rhaid i achosion o Covid ostwng ymhellach cyn llacio'r cyfyngiadau gan y byddai ton arall o Covid yn "gwbl ddinistriol" i'r economi.
"Mae cylch o gyflwyno cyfyngiadau ac yna eu hatal wedi achosi llawer o ansicrwydd i'r economi a rhaid atal hynny rhag digwydd eto," ychwanegodd Mr Price.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2021