Dyn yn ddieuog o lofruddio'i wraig yn y cyfnod clo cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae gŵr a laddodd ei wraig ychydig ddyddiau ar ôl dechrau'r cyfnod clo cyntaf wedi ei gael yn ddieuog o'i llofruddio.
Fe dagodd Anthony Williams, 70, ei wraig Ruth Williams wedi ffrae yn eu cartref yng Nghwmbrân ar 28 Mawrth 2020.
Roedd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun yn unfrydol eu barn ei fod yn ddieuog o lofruddiaeth.
Roedd Williams eisoes wedi pledio'n euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.
Clywodd y rheithgor fod y cyn-weithiwr ffatri yn poeni am Covid-19 a'r cyfnod clo, a oedd wedi dechrau bum diwrnod ynghynt.
'Rydw i wedi ei lladd'
Roedd darllen newyddion am y pandemig wedi mynd yn obsesiwn ac fe drodd ar ei wraig ar ôl iddi ddweud wrtho i roi'r gorau i boeni.
Dechreuodd ymosod ar ei wraig yn ystafell wely eu tŷ ond fe barhaodd i lawr y grisiau ar ôl i Mrs Williams geisio dianc.
Ar ôl yr ymosodiad, aeth Williams at ei gymdogion a dweud wrthyn nhw fod ei wraig wedi marw a bod yn rhaid galw 999, cyn dweud ei fod o wedi ei lladd.
"Mae hi wedi marw, rydw i wedi ei lladd - fe gawson ni ffrae ac rydw i wedi ei thagu. Mae'n rhaid i chi ddod yn syth," meddai.
Daeth swyddogion o hyd i Mrs Williams ar lawr yng nghyntedd eu cartref ym Mryn-glas, yn ardal Hollybush, Cwmbrân, gyda phâr o allweddi yn ei llaw.
Ceisio dianc
Roedd yr allweddi, yn ôl erlyniad, yn dangos ei bod hi wedi ceisio dianc.
Ceisiodd cymydog a chriw'r ambiwlans roi CPR i Ruth Williams ond bu hi farw erbyn cyrraedd Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.
Bu farw Mrs Williams o ganlyniad i roi pwysau ar ei gwddf; roedd nifer o esgyrn y gwddf wedi torri hefyd, yn ôl patholegydd fu'n cynnal archwiliad post mortem.
Cafwyd hyd i linyn gŵn nos Mrs Williams ar lawr yn y tŷ ac fe honnodd yr erlyniad ei fod wedi'i ddefnyddio yn yr ymosodiad.
Yn ystod y daith i'r orsaf heddlu dywedodd Anthony Williams wrth swyddogion: "Doeddwn i ddim yn bwriadu ei llofruddio hi.
"Faswn i ddim yn brifo pry', dwi ddim yn un fel yna, dydw i ddim yn gwybod beth ddoth drosta'i."
Roedd Williams wedi bod yn cael trafferth cysgu gan ei fod yn poeni am orfod aros adref.
Clywodd y llys ei fod yn poeni a fyddai'n gallu tynnu arian o'i gyfrifon banc oherwydd y rheolau ynglŷn ag aros adref yn ystod y pandemig.
Pan ddywedodd Mrs Williams wrtho i roi'r gorau i boeni, fe "ffrwydrodd" a dechrau ymosod arni.
Dywedodd Emma Williams, merch y pâr, wrth y rheithgor fod Covid wedi mynd yn obsesiwn gan ei thad.
Newidiodd o fod yn ddyn oedd yn "llawn hwyl" i ddyn oedd yn ofni "na fyddai pobl byth yn gadael y tŷ eto".
Roedd ei thad yn poeni am bethau eraill ac roedd y gost o wresogi'r tŷ wedi dechrau mynd yn obsesiwn ganddo.
"Roedd e wastad yn diffodd y gwres a'r goleuadau adref," meddai Ms Williams.
Iechyd meddwl 'wedi dirywio'
Dywedodd y seiciatrydd Dr Alison Witts, oedd yn rhoi tystiolaeth ar gyfer yr amddiffyniad, bod Williams yn dioddef o iselder a gor-bryder.
Roedd hi o'r farn bod iechyd meddwl Williams wedi dirywio a'i fod wedi dechrau dioddef gydag iselder ar ôl iddo ymddeol.
Roedd hi'n credu ei fod wedi cael ei orlethu gan or-bryder a bod hynny wedi amharu ar ei allu i reoli ei hun.
"Roedd gweithredoedd y diffynnydd y bore hwnnw yn hir ac yn barhaus ac fe roedd yn benderfynol o ymosod ar ei wraig," meddai'r erlynydd Matthew Roberts.
Bydd Anthony Williams yn cael ei ddedfrydu ddydd Iau.