Dedfrydu menyw am ffugio llofnodion ar ddogfen etholiad
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Gastell Nedd wedi ei dedfrydu i garchar am chwe mis sydd wedi'u ohirio am ffugio llofnodion ar ddogfen enwebu ar gyfer sedd ar gyngor sir.
Roedd Amanda Wycherley, 41 oed, dan ymchwiliad gan Uned Troseddau Electroneg, Heddlu'r De yn dilyn isetholiad ym Mai 2019.
Roedd Wycherley wedi ei chyhuddo o ffugio llofnod wyth person lleol ar bapur enwebu Jonathan Liam Jones, oedd yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer ward Resolfen ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
Dywedodd yr Arolygydd Nick Bellamy o Heddlu'r De fod troseddau o'r fath yn "tanseilio'r broses ddemocrataidd".
Fel rhan o ofynion y cyngor, roedd yn rhaid i ymgeiswyr sicrhau o leiaf 10 llofnod gan unigolion o'r etholaeth cyn bod yn gymwys i sefyll fel ymgeisydd.
Ffugio wyth enw
Daeth yr heddlu i'r casgliad fod Wycherley wedi ychwanegu wyth enw ar y papur enwebu yn ddiarwybod i'r bobl hynny.
Mae Mr Jones a'i asiant wedi cadarnhau nad oedden nhw'n ymwybodol o droseddau Wycherley.
Daeth yr awdurdodau i wybod am y drosedd ar ôl i ddau berson weld eu henwau ar y ffurflen enwebu a oedd wedi ymddangos yn gyhoeddus.
Fe blediodd Wycherley yn euog i'r cyhuddiadau yn ei herbyn ddydd Llun yn Llys y Goron Abertawe.
Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar sydd wedi ei ohirio bydd yn rhaid iddi hefyd gwblhau 180 awr o waith yn ddi-dâl yn y gymuned a thalu dros £2,000 mewn costau.