Protest wedi marwolaeth wrth lansio ymchwiliad i swyddogion

  • Cyhoeddwyd
Protestors
Disgrifiad o’r llun,

Protestwyr y tu allan i orsaf heddlu Casnewydd brynhawn Iau

Fe wnaeth dros 100 o brotestwyr gasglu yng Nghasnewydd brynhawn Iau wedi i ddyn du farw yn fuan wedi i blismyn fynd i'w gartref.

Bu farw Moyied Bashir ddydd Mercher wedi i blismyn gael eu galw i'w gartref yng Nghasnewydd oddeutu 09:00.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad ar ôl i'r heddlu gyfeirio eu hunain.

Fe wnaeth y protestwyr gerdded drwy ardal Pillgwenlli ac yna ymgasglu y tu allan i orsaf heddlu yng nghanol Casnewydd gan ergydio'r drws a gweiddi am "atebion" a "chyfiawnder".

'Ond eisiau helpu'

Cafodd y brotest ei harwain gan Mohamed Bashir, brawd Moyied, a ddywedodd fod ei rieni Mamoun a Mahasin Bashir wedi galw'r heddlu yn chwilio am help.

"Fe gafodd fy mrawd ei drywanu tua tair wythnos yn ôl - ac fe gafodd ei roi ar feddyginiaeth. Mae e wedi bod yn cael problemau iechyd meddwl am gyfnod hir," meddai.

"Fe wnaeth y cyfuniad o'r feddyginiaeth a chyflwr ei iechyd meddwl wneud y sefyllfa yn anodd.

"Felly fe wnaeth fy rhieni benderfynu y dylem fynd ag e'n ôl i'r ysbyty ond doedden ni ddim yn gallu ei gael allan o'i ystafell.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y brotest yn cael ei harwain gan frawd Moyied Bashir, Mohamed

"Fe benderfynon nhw felly mai'r dewis gorau oedd galw'r heddlu a chael eu cymorth nhw i fynd ag e i'r ysbyty. Fe ffonion nhw'r heddlu gyda'r bwriad o'i hebrwng i'r ysbyty gyda dau neu dri swyddog ond nid dyna ddigwyddodd.

"Fe wnaeth 24 swyddog gyrraedd a gorfodi eu ffordd i'w ystafell, ei roi yna mewn gefynnau llaw a'i glymu wrth ei goes. Mae'r anaf yn agos i'r brif wythïen ac wedi iddo gael ei glymu fe aeth e'n wannach.

"Yn yr ysbyty fe gafodd fy mrawd CPR, ocsigen, wnaethon nhw drio popeth ond roedd hi'n rhy hwyr. Roedden ni ond eisiau helpu."

Mae cais wedi cael ei roi i Heddlu Gwent am ymateb i sylwadau'r teulu.

Mae Heddlu Gwent wedi cyfeirio'u hunain at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (SAYH) - proses arferol yn dilyn marwolaeth wedi cyswllt gyda'r heddlu.

Mae Mohamed Bashir wedi disgrifio ei frawd "fel cymeriad cryf oedd yn llawn bywyd" ac yn un "na fyddai'n brifo neb".

Dywedodd hefyd ei fod yn flin fod ei frawd wedi marw o fewn mis i bryderon am farwolaeth dyn du arall, Mohamud Mohammed Hassan, oriau wedi iddo adael y ddalfa yng Nghaerdydd.

"Mae'n ofnadwy - rhaid i rywbeth ddigwydd. Mae e wedi bod yn digwydd am gyfnod rhy hir. Ry'n ni'n mynd i ymladd. Ry'n ni'n mynd i gael atebion."

Fe wnaeth Mohamed Bashir hefyd alw ar heddlu Gwent i ryddhau unrhyw luniau o gamera corff y plismyn a aeth i gartref ei rieni.

"Mae fy rhieni wedi torri eu calonnau. Dyw hyn ddim yn deg."

Cynnal camau cyntaf yr ymchwiliad

Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu bod y llu "wedi nodi bod cyflwr y dyn wedi gwaethygu tra'r oedd plismyn yn parhau i fod yn y cartref".

"Cafodd ambiwlans ei alw ac yna aed â'r dyn i'r ysbyty lle bu farw yn hwyrach.

"Cafodd ein hymchwilwyr eu hanfon i'r cartref ac mae'r dulliau gweithredu wedi'r digwyddiad wedi'u cynnal ac wedi rhoi manylion cynnar ond mae'n hymchwiliad mewn cyfnod cynnar iawn."

Fe aeth plismyn i'r eiddo ar Ffordd Maes-glas yng Nghasnewydd toc wedi 09:00 fore Mercher wedi pryderon am les unigolyn.

Nodwyd bod y dyn yn dioddef o "ddigwyddiad meddygol" a bod plismyn wedi galw'r ambiwlans, a'i fod wedi marw yn ddiweddarach mewn ysbyty yng Nghwmbrân.

Pynciau cysylltiedig