Pro14: Dreigiau 29-35 Leinster

  • Cyhoeddwyd
rygbiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dan Sheehan yn sgorio un o geisiau'r ymwelwyr nos Wener

Hawliodd y Dreigiau bwynt bonws ond colli oedd eu hanes i'r pencampwyr Leinster ar Rodney Parade yn y Pro14 nos Wener.

Roedd y Dreigiau'n arwain 15-14 ar hanner amser diolch i bum cic gosb Sam Davies.

Ond sicrhaodd ceisiau gan Peter Dooley, Scott Penny, Josh Murphy a Dan Sheehan - ynghyd â chais cosb - y fuddugoliaeth i'r ymwelwyr.

Er i Lloyd Fairbrother a Dan Baker gael cardiau melyn i'r tîm cartref, sicrhaodd ceisiau hwyr gan Luke Baldwin a Josh Lewis bwynt bonws haeddiannol.

Roedd y Dreigiau yn croesawu Jonah Holmes yn ôl, tra hefyd yn rhoi gêm gyntaf i'r canolwr ifanc Aneurin Owen.

Nid oedd Jamie Roberts yn dilyn genedigaeth ei fab yr wythnos hon.

Mae Leinster yn eistedd ar frig Adran A yn dilyn y canlyniad, tra bod y Dreigiau wedi colli eu saith gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth.

Dreigiau: Jordan Williams; Jonah Holmes, Aneurin Owen, Jack Dixon, Ashton Hewitt; Sam Davies, Rhodri Williams (c); Brok Harris, Richard Hibbard, Lloyd Fairbrother, Joe Davies, Ben Carter, Matthew Screech, Ben Fry, Huw Taylor

Eilyddion: Ellis Shipp, Greg Bateman, Chris Coleman, Joe Maksymiw, Dan Baker, Luke Baldwin, Josh Lewis, Connor Edwards.

Leinster: Max O'Reilly; Cian Kelleher, Rory O'Loughlin, Ross Byrne, Dave Kearney; Harry Byrne, Luke McGrath (c); Peter Dooley, James Tracy, Michael Bent, Ross Molony, Ryan Baird, Josh Murphy, Scott Penny, Jack Conan

Eilyddion: Dan Sheehan, Marcus Hanan, Tom Clarkson, Devin Toner, Scott Fardy, Rowan Osborne, David Hawkshaw, Jamie Osborne.

Pynciau cysylltiedig