Rhestrau aros Cymru yn cyrraedd record o 538,861

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Llawfeddyg gyda chymal y glunFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae bron i dau o bob tri chlaf orthopedig yn wynebu aros o dros 36 wythnos

Mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n aros am driniaeth heblaw am at coronafeirws wedi cyrraedd ei lefel uchel erioed, sef 538,861.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae dros 82,000 o bobl wedi cael eu hychwanegu at restr aros ers Mawrth 2020.

Fis diwethaf fe ddaeth i'r amlwg bod nifer y bobl sy'n aros mwy na naw mis am driniaeth dros wyth gwaith yn uwch nag ar ddechrau 2020.

Mae ymdrech ar droed i leihau'r oedi hiraf, gyda bron i 5,000 yn llai o gleifion ar y rhestr nag ym mis Rhagfyr.

Tyfodd rhestrau aros wedi i'r pandemig orfodi'r GIG i ganslo triniaethau nad oedd yn rhai brys fel rhan o'r paratoadau i drin cleifion Covid-19.

Ond mae'r GIG wedi ceisio parhau â llawdriniaethau yn y misoedd diwethaf, er bu'n rhaid gohirio rhai yn sgil y pwysau ar y gwasanaeth.

Rhestrau aros ysbytai Cymru. Nifer yn aros dros 36 wythnos i ddechrau triniaeth.  .

Yn ôl dirprwy brif swyddog meddygol Cymru, Chris Jones, bydd delio â'r holl driniaethau sydd wedi pentyrru yn "dasg aruthrol".

Dywedodd: "Mae'r oedi yn achos rhai categorïau o gleifion wedi cynyddu oherwydd mae'r sefyllfa'n dal yn anodd, er bod nifer y bobl yn ein hysbytai gyda Covid wedi gostwng.

"Mae gyda ni o hyd o gwmpas 2,000 o bobl â phroblemau'n ymwneud â Covid yn ysbytai Cymru, ac wrth gwrs fyddai'r bobl yna heb fod yna flwyddyn yn ôl, felly mae'n her fawr ond mae angen i ni ddechrau cynnal gwasanaethau gofal a gwasanaethau eraill cynted â phosib."

Ychwanegodd bod "dim pentyrru yn achos gofal canser" ond mae yna "bentyrru enfawr" yn achos llawdriniaethau eraill, yn cynnwys llawdriniaethau orthopedig ac endosgopig.

"Mae'n rhaid clirio'r rhain ond bydd yn dasg aruthrol a bydd yn cymryd cyfnod sylweddol o amser."

Faint o bobl fu'n aros am driniaeth yn 2020?

  • 538,861 yw'r cyfanswm - y nifer uchaf erioed.

  • Cynyddodd nifer y cleifion sy'n aros dros 36 wythnos, neu naw mis, i ddechrau triniaeth ysbyty 728%, o 27,314 ddechrau'r flwyddyn i 226,138.

  • Roedd gostyngiad o 4,844 yn nifer y cleifion sy'n aros am y cyfnodau hiraf.

  • Roedd yr oedi hiraf yn cynnwys 52,100 o bobl sydd angen triniaeth orthopedig neu driniaeth trawma - bron 500% o gynnydd ers Ionawr 2020 - a 254 yn aros am lawdriniaeth cardiothoracsig, bron chwe gwaith yn fwy.

  • Mae 1,515 yn rhagor yn aros am driniaeth niwrolegol, o'i gymharu â 28 ar ddechrau 2020. Roedd gwelliannau yn ystod y mis diwethaf o fewn yr arbenigeddau hyn.

Mae'r oedi hiraf ymhlith cleifion sydd angen triniaethau clun neu ben-glin. Mae dros 80,340 yn aros i driniaethau ddechrau, a bron i ddau o bob tri'n aros o leiaf 36 wythnos.

Yn y cyfamser, mae'r rhestr ar y cyfan wedi cynyddu bron i 25% ers Ionawr.

Dan dargedau Llywodraeth Cymru, dylid trin 95% o gleifion o fewn chwe mis, a dylai neb orfod aros am fwy na chwe mis.

Mesurau newydd perfformiad adrannau damwain a brys

Mae Llywodraeth Cymru nawr yn cyhoeddus tri mesur perfformiad newydd "arbrofol", dolen allanol ar gyfer adrannau brys:

Amser i brysbennu (triage): Dyma'r amser ar gyfartaledd y mae'n rhaid i rywun aros am asesiad cychwynnol, ac mae perfformiad yn ôl categori triage (faint o frys sydd ei angen i drin eich cyflwr) yn cael ei rannu'n dri chategori - ar unwaith, ar frys mawr ac ar frys.

15 a 17 munud oedd yr hyd aros canolog (median) yn achos cleifion gofal brys a gofal brys mawr ym mis Ionawr - sy'n funud yn gynt nag yn y mis flaenorol.

Amser i'r clinigwr: Yr amser ar gyfartaledd mae'n rhaid i glaf aros am asesiad manylach gan glinigwr. Cafodd 63.1% o gleifion eu gweld o fewn "amser dilys" a 64 munud oedd yr amser aros canolog.

Canlyniad: Gwybodaeth am ble mae pobl yn cael eu hanfon ar ôl cael eu hasesu a'u trin yn yr adran achosion brys. Fe gafodd 27.15% eu cadw yn yr ysbyty, doedd dim angen rhagor o ofal ar ar 43.7%, tra bod 11.4% wedi'u cyfeirio at feddyg teulu.

Nid oes targedau wedi eu pennu mewn cysylltiad â'r mesurau hyn a dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi'i gosod gydag adborth staff rheng flaen unedau brys.

Dyw'r targed o sicrhau bod 95% o gleifion yn treulio llai na phedair awr mewn adran ddamwain a brys erioed wedi'i gyrraedd ers ei gyflwyno yn 2010.

Dangosodd amseroedd aros adrannau brys ym mis Ionawr fod 74.2% o gleifion wedi'u gweld, trosglwyddo neu ryddhau o fewn pedair awr, gwelliant o 4.2% o'i gymharu â Rhagfyr.

Ysbyty Glan Clwyd, ym Modelwyddan oedd â'r perfformiad gwaethaf, gan weld 42% o fewn pedair awr.

Bu'n rhaid i 5,462 o gleifion ar draws Cymru aros am fwy na 12 awr, er bod y targed yn nodi na ddylai neb orfod aros cyhyd, ond mae'r ffigwr 924 yn llai nag yn y mis blaenorol.

Mae ffigyrau eraill yn dangos:

  • 2,530 o gyfeiriadau y dydd ar gyfartaledd yn Rhagfyr am apwyntiadau cyntaf mewn adran allanol - 19.2% yn is na'r flwyddyn gynt.

  • 65.6% o gleifion sydd newydd gael diagnosis canser yn dechrau triniaeth 62 diwrnod neu lai o'r amheuaeth gyntaf o fewn y Llwybr Canser Unigol. Mae hyn yn 2.4% yn uwch na flwyddyn yn ôl.

  • O ran y gwasanaeth ambiwlans, cyrhaeddodd 59.6% o fewn wyth munud yn achos galwadau brys coch ble roedd bywyd yn y fantol. Dyma'r chweched mis yn olynol i'r gwasanaeth fethu'r targed o 65%.

  • Mae canllawiau Covid, yn cynnwys offer PPE ychwanegol, yn effeithio ar yr amser y gall criwiau ymateb i alwad.