Covid: Rhestrau aros am driniaethau wyth gwaith yn uwch

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
YsbytyFfynhonnell y llun, ANIDA

Mae'r rhestr aros ar gyfer triniaethau ysbytai oedd wedi eu trefnu o flaen llaw wedi cynyddu mwy na 73,500 ers i'r pandemig ddechrau, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae nifer y bobl sy'n aros mwy na naw mis am driniaeth dros wyth gwaith yn uwch nag ar ddechrau 2020.

Mae'r ffigyrau newydd hefyd yn dangos fod 231,722 o bobl yn aros mwy na 36 wythnos cyn i driniaeth ddechrau - sef bron i 44% o'r rhestr aros.

Fe gynyddodd y niferoedd wedi i fwyafrif o driniaethau oedd wedi'u trefnu gael eu gohirio ym mis Mawrth, wrth i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol baratoi ar gyfer cleifion Covid-19.

Ond mae GIG Cymru wedi bod yn ceisio parhau â thriniaethau nad ydynt yn rhai brys, er bod yr ail don wedi arwain at ohirio llawdriniaethau arferol mewn rhai ysbytai.

Mae hyn wedi digwydd yn Ysbyty Wrecsam Maelor, ac hefyd yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Erbyn mis Tachwedd:

  • Roedd nifer y cleifion sy'n aros mwy na 36 wythnos - naw mis - i ddechrau triniaeth yn yr ysbyty wedi tyfu o 27,314 ym mis Ionawr 2020 i 231,722 (cynnydd o 748%)

  • Roedd nifer y cleifion sy'n wynebu'r oedi hiraf wedi cynyddu bron i 26,000 mewn mis

  • Roedd yr amseroedd aros hiraf yn cynnwys 52,259 o bobl yn aros am driniaeth orthopedig neu drawma - cynnydd o bron i 500% ers mis Ionawr 2020 - a 273 yn aros am lawdriniaeth gardiothorasig, sydd bron i chwe gwaith yn uwch.

Mae targedau Llywodraeth Cymru yn nodi y dylid trin 95% o gleifion o fewn chwe mis ac ni ddylai neb aros yn hirach na chwe mis.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mesurau newydd damweiniau ac achosion brys

Ynghyd â ffigurau amseroedd aros, mae Llywodraeth Cymru bellach yn cyhoeddi tri mesur perfformiad "arbrofol" newydd ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys. Ar gyfer mis Rhagfyr:

  • Amser i triage: Dyma'r amser ar gyfartaledd y mae'n rhaid i rywun aros am asesiad cychwynnol - ac mae perfformiad yn ôl categori triage (faint o frys sydd ei angen i drin eich cyflwr) yn cael ei rannu'n dri chategori - ar unwaith, ar frys mawr ac ar frys. Roedd rhaid i'r rhai oedd angen gofal brys neu frys mawr aros am 16 a 18 munud ar gyfartaledd. Mae hyn yn gynnydd o un a dau funud o gymharu gyda deufis yn ôl.

  • Amser i glinigwr: Yr amser cyfartalog y mae claf yn aros am asesiad mwy trylwyr gan glinigwr - roedd 59.7% yn cael ei gweld o fewn "amser dilys"

  • Canlyniad: Gwybodaeth am ble mae pobl yn cael eu hanfon ar ôl cael eu hasesu a'u trin yn yr adran achosion brys. Fe gafodd 26.5% eu cadw i mewn yn yr ysbyty, doedd dim angen rhagor o ofal ar ar 42.6%, tra bod 11.2% wedi'u cyfeirio at feddyg teulu.

Nid oes unrhyw dargedau wedi'u gosod mewn perthynas â'r mesurau hyn, a dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi eu gosod gyda mewnbwn gan staff gofal brys rheng flaen.

Y targed cyfredol ydy na ddylai 95% o gleifion dreulio mwy na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ond chafodd hyn erioed ei gyflawni ers iddo gael ei gyflwyno yn 2010.

Ffynhonnell y llun, EPA

Dangosodd yr amseroedd aros ar gyfer damweiniau ac achosion brys ym mis Rhagfyr fod 70% o gleifion yn cael eu gweld, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn pedair awr.

Arhosodd 6,386 o gleifion am fwy na 12 awr, er bod y targedau'n nodi na ddylai neb orfod aros mor hir a hyn. Mae hyn 1,593 yn fwy o gleifion na'r mis blaenorol.

Mae ffigurau eraill yn dangos:

  • Ar gyfartaledd roedd 2,926 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol cyntaf y dydd ym mis Tachwedd, 20.6% yn is na'r flwyddyn flaenorol.

  • Dechreuodd 11,717 o gleifion canser ar y llwybr triniaeth ym mis Tachwedd - 9.3% yn llai na'r flwyddyn flaenorol - ond dywedodd GIG Cymru fod y niferoedd ar "lefel debyg yn fras" i niferoedd cyn-Covid-19

  • Dechreuodd 63.5% o gleifion canser sydd newydd gael diagnosis driniaeth o fewn 62 diwrnod o'r amser lle'r oedd gan feddygon amheuaeth fod y salwch ar y claf. Mae hyn 3.8% yn uwch na blwyddyn yn ôl.

  • Ar y llwybr canser brys, cychwynnodd 70.2% o gleifion driniaeth ddiffiniol o fewn yr amser targed o 62 diwrnod. Mae hyn yn is na'r targed o 95% ac ostyngiad o gymharu gyda'r mis diwethaf.

  • Ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans, cyrhaeddodd 53.7% o ymatebion brys i alwadau (coch) oedd yn peryglu bywyd ar unwaith o fewn wyth munud. Dyma'r pumed mis yn olynol i'r targed o 65% gael ei fethu. Mae protocol Covid, gan gynnwys PPE yn effeithio ar ba mor gyflym mae modd ymateb i alwad.

Cynllunio gofal yn 'heriol'

Dywedodd Darren Hughes, Cyfarwyddwr Cydffederasiwn GIG Cymru fod sefydliadau'r GIG yn gwneud cynnydd "cyson a chadarnhaol tuag at ddelio ag amseroedd aros" cyn y pandemig.

Ond o achos yr anawsterau o ddarparu gofal i ddiogelu rhag Covid a'r niferoedd uchel o gleifion coronafeirws sydd angen triniaeth ysbyty, ychwanegodd fod cynnal gofal wedi'i gynllunio wedi bod yn "heriol".

"Ar hyn o bryd rydym yn rhedeg ein gallu gofal critigol ar dros 150% ac mae traean o'n gwelyau ysbyty yn cael eu defnyddio i ofalu am gleifion â Covid.

"Ar yr un pryd mae staff y GIG yn cael eu hadleoli i sicrhau bod y rhaglen frechu fwyaf mewn hanes yn cael ei chyflwyno. Yn anffodus nid yw'r adroddiad hwn yn syndod a bydd cryn amser cyn y gellir darparu gofal ar gyfraddau arferol."

Ychwanegodd y byddai'r GIG yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau ei fod "yn delio â'r ôl-groniad hwnnw unwaith rydyn ni'n dod trwy'r argyfwng hwn."

Ffigyrau 'gwarthus'

Wrth ymateb i'r ystadegau diweddaraf, dywedodd llefarydd iechyd yr wrthblaid yn Senedd Cymru, y Ceidwadwr Andrew RT Davies fod y ffigyrau'n rhai "gwarthus".

Dywedodd Mr Davies: "Yn anffodus, roedd targedau rhestrau aros yn cael eu methu cyn i'r pandemig ddechrau, gyda'r llywodraeth dan arweiniad Llafur Cymru yn siomi cleifion yn gyson.

"Gyda brechlynnau bellach yn cael eu cyflwyno ledled y wlad, mae'n rhaid i ni gael cynllun ar waith i fynd i'r afael â'r ôl-groniad enfawr hwn a sicrhau nad yw cleifion yn cael eu gadael yn aros mewn poen neu bryder diangen."