Gobeithio llacio'r rheol 'aros adref' ymhen tair wythnos

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Dywedodd Mark Drakeford bod angen i achosion aros yn isel er mwyn gweithredu'r newidiadau

Mae Prif Weinidog Cymru'n gobeithio y bydd modd llacio'r rheol i "aros adref" ymhen ychydig dros dair wythnos.

Dywedodd Mark Drakeford y bydd angen i gyfraddau barhau i ostwng cyn gwneud unrhyw newidiadau, a'i bod yn rhy gynnar i ddweud a fydd pobl yn cael teithio tu hwnt i'w hardaloedd lleol.

Cadarnhaodd hefyd y gallai holl blant oed cynradd a rhai disgyblion uwchradd ddychwelyd i'r ysgol o ddydd Llun, 15 Mawrth os ydy sefyllfa Covid-19 yn parhau i wella.

Dywedodd hefyd yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru eu bod wedi dechrau trafodaethau gyda chynrychiolwyr y diwydiant twristiaeth ynghylch dechrau ailagor y sector erbyn y Pasg, gan ailagor llety gwyliau hunangynhaliol yn y lle cyntaf.

Pa newidiadau gafodd eu cyhoeddi heddiw?

Bydd "nifer o newidiadau bychan" i'r cyfyngiadau o ddydd Sadwrn ymlaen.

Fe fydd nifer y bobl sy'n cael ymarfer corff gyda'i gilydd yn yr awyr agored yn cynyddu i bedwar person o ddau gartref gwahanol, ar yr amod eu bod yn cadw pellter cymdeithasol.

Bydd hyn, meddai Mr Drakeford, yn helpu pobl sydd wedi cael trafferth dygymod â'r cyfnod clo, ond nid yw'n golygu bod hawl i gymdeithasu nag i yrru i rywle i ymarfer.

Bydd Llywodraeth Cymru'n edrych eto ar ganllawiau ymweld â chartrefi gofal wrth i fwy o breswylwyr a staff gael eu brechu, a bydd mwy o athletwyr elît yn cael ailddechrau hyfforddi.

Ychwanegodd y Prif Weinidog y bydd modd i fwy o leoliadau ailddechrau seremonïau priodas o 1 Mawrth - nid swyddfeydd cofrestru ac addoldai yn unig.

Ond bydd y canllaw cyffredinol i aros adref yn aros mewn grym am o leiaf tair wythnos arall.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mark Drakeford

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mark Drakeford

Dywedodd Mr Drakeford bod arwyddion addawol o adferiad i'w gweld, ac mi fydd yn edrych ymlaen at yr adolygiad nesaf ymhen tair wythnos.

Y nod, os yw'r sefyllfa'r parhau i wella, yw i bob disgybl cynradd ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb o 15 Mawrth ymlaen.

"Rydym hefyd eisiau i rai disgyblion hŷn - fel disgyblion blynyddoedd 11 a 13 mewn ysgolion a'r rhai sy'n dilyn cymwysterau mewn colegau - yn dychwelyd ar sail cyfuniad o wersi ar-lein a wyneb yn wyneb os yw'r amodau'n gywir," dywedodd.

Codi'r cyfyngiadau ar siopau?

"Diolch i waith tîm Cymru gyfan, mae'r achosion o coronafeirws ar eu lefel isaf ers diwedd mis Medi tra bod un ym mhob tri o oedolion yng Nghymru wedi derbyn brechlyn," yn ôl Mr Drakeford.

Mae disgwyl i'r adolygiad nesaf ystyried a ydy hi'n bosib lleihau'r cyfyngiadau ar siopau sy'n gwerthu nwyddau sydd ddim yn hanfodol, a siopau trin gwallt neu harddwch.

Ond pwysleisiodd Mr Drakeford na fyddai popeth yn ailagor ar unwaith.

Beth am y diwydiant lletygarwch?

Dywedodd ar BBC Radio 4 fore Gwener ei fod yn gobeithio y bydd modd ailagor llety gwyliau hunangynhaliol dros y Pasg - fel meysydd gwersylla.

Ond dywedodd y Prif Weinidog mai'r "mwyaf fyddai'n digwydd" ydy agor llety gwyliau ble nad oes cyfleusterau'n cael eu rhannu ac nad oes cymysgu rhwng pobl o gartrefi gwahanol.

"Os allwn ni wneud hynny - ac mae chwe wythnos yn amser hir yn y busnes yma - yna fe fyddai hynny'n hwb i'r diwydiant ac yn hwb i gannoedd o filoedd o deuluoedd yng Nghymru fydd yn croesawu'r cyfle i fynd i ffwrdd yn y garafán am ychydig ddyddiau," meddai.

Disgrifiad,

'Dwi'n gweld hi'n anoddach canolbwyntio o adra'

Mae'r gyfradd achosion yng Nghymru wedi bod yn gostwng ers yr wythnos cyn y Nadolig.

Ar 83.7 achos fesul 100,000 o bobl dros saith diwrnod, mae ganddi'r gyfradd isaf o genhedloedd y DU, ychydig yn is na'r Alban.

Mae nifer y cleifion Covid-19 yn ysbytai Cymru hefyd ar ei lefel isaf ers 28 Hydref.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod un o bob tri oedolyn yng Nghymru wedi cael brechlyn coronafeirws - mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 839,065 o bobl wedi cael eu dos cyntaf yng Nghymru.

Galw am ddyddiadau pendant

Dywedodd arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, bod rhai o'r cyhoeddiadau ddydd Gwener i'w croesawu, "yn enwedig o ran dychwelyd mwy o blant i'r dosbarth, sy'n flaenoriaeth i ni oll".

Mae hefyd yn falch fod mwy o bobl bellach yn cael cwrdd tu allan i ymarfer, "er mae mwy yn dal yn bosib, yn arbennig o ran gweithgaredd plant a champfeydd".

Ond mae'n "gresynu'r diffyg cefnogaeth ariannol ychwanegol a bras amserlen adfer busnesau ar draws Cymru sydd fel lladd nadroedd yn ceisio cynllunio'u goroesiad".

Ychwanegodd: "Rwy'n cydnabod na fyddai dyddiadau penodol yn bosib, ond fe allai fod wedi cynnig adegau cyfleus i gwmnïau sydd angen paratoi'n ariannol ac yn logistaidd."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am fras amserlen o sut a phryd bydd cyfyngiadau'n cael eu codi

Rhybuddiodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, cyn y gynhadledd nad ydy Cymru "yno eto o ran bod yn barod i lacio cyfyngiadau ar lefel genedlaethol".

"Mae cyfraddau heintio yn parhau i fod yn uchel, ac mae'r bwlch sydd gennym yn parhau i fod yn isel. Ar bob cam, dylai'r penderfyniadau gael ei yrru gan ddata nid dyddiadau," meddai.

"Dylid llacio cyfyngiadau teithio yn ofalus a'r dull synhwyrol fyddai ailgyflwyno'r neges 'aros yn lleol' cyhyd ag y bo angen.

"Mae'n hanfodol bod y rhai sydd wedi colli eu bywoliaeth yn parhau i gael eu cefnogi ac rydym yn cefnogi galwad y Resolution Foundation yr wythnos hon i ymestyn ffyrlo am sawl mis ar ôl i'r cyfyngiadau ddod i ben."

Galwodd arweinydd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru, Richard Suchorzewski, ar i Mr Drakeford wneud newidiadau ar werthu eitemau nad ydynt yn hanfodol mewn archfarchnadoedd a siopau hanfodol eraill.

"Dylid o leiaf caniatáu i bobl Cymru gael yr un hawliau i brynu'r hyn y mae'n ei ystyried yn 'eitemau nad ydynt yn hanfodol' e.e. siwmperi, esgidiau a dillad isaf, ag y caniateir iddynt mewn archfarchnadoedd yn Lloegr," meddai.