Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad car ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 38 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad car nos Wener ar Ynys Môn.
Yn fuan ar ôl 23:00 nos Wener cafodd Heddlu Gogledd Cymru alwadau o aelodau o'r cyhoedd yn adrodd bod dyn yn anymatebol ger yr A5025 rhwng Y Fali a Llanynghenedl.
Bu farw'r dyn yna er gwaethaf ymdrechion aelodau o'r cyhoedd i'w achub, yn ôl yr heddlu.
Mae'r heddlu yn apelio at unrhywun sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu.
Dywedodd DCI Brian Kearney: "Mae hyn yn ddigwyddiad trasig ble collodd dyn 38 oed ei fywyd.
"Mae'n debygol cafodd ei daro gan gerbyd neu gerbydau gadawodd yr ardal ac sydd heb gael eu hadnabod."
Ychwanegodd DCI Kearney ei fod eisiau diolch i'r aelodau o'r cyhoedd ceisiodd arbed bywyd y dyn.