Pro14: Connacht 32-17 Gleision
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes y Gleision yn erbyn Connacht nos Sadwrn er gwaethaf perfformiad ystyfnig mewn gêm gorfforol yn Galway.
Sgoriodd Rhys Carre gais cyntaf y gêm gan roi'r fantais yn gynnar i'r Gleision.
Ond wedi dwy gais gan Alex Wootton roedd y tîm cartref 20-10 ar y blaen erbyn yr egwyl.
Fe wnaeth ail gais y Gleision, gan Corey Domachowski, leihau'r bwlch rhwng y ddau dîm am gyfnod yn yr ail hanner ond cafodd y fuddugoliaeth - a phwynt bonws - ei selio wedi ceisiadau pellach i Connact gan Jarrad Butler ac Abraham Papali'i.
Daeth pwyntiau eraill y Gleision o giciau Jason Tovey a Mathew Morgan.
Mae'r Gleision yn parhau ym mhedwerydd safle Adran B ar ôl colli cyfle i godi uwchben y Scarlets.