'Doedd gen i ddim syniad fy mod i'n disgwyl babi'
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Bwllheli, Gwynedd, yn dweud eu bod hi 'dal mewn sioc' ar ôl iddi roi genedigaeth i fabi, nad oedd hi'n gwybod ei bod hi'n ei ddisgwyl.
Pan ddechreuodd Delyth Jones, sy'n ofalwr cartref i bobl oedrannus a bregus, gael poenau fe feddyliodd i gychwyn bod ganddi lid y pendics.
Galwodd ei mam ambiwlans, ond pan gyrhaeddodd y criw roedd hi'n amlwg ei bod hi ar fin geni.
Roedd yr ambiwlans yn ei gyrru hi i'r ward famolaeth agosaf, ym Mangor, ond wedi darganfod bod Harry ar ei ffordd fe stopiodd y cerbyd ym maes parcio archfarchnad Asda ym Mhwllheli.
Yn dro ychwanegol yn y stori, roedd ei phartner, Dean Stawman, yn gweithio yn y siop ar y pryd.
Fe orffennodd Dean, sy'n 26, ei shifft, gan yrru adref yn hollol ddiarwybod bod ei bartner wrthi'n geni eu plentyn yn y maes parcio.
Yn ôl Delyth maen nhw dal mewn sioc ond wrth eu bodd bod Harry wedi cyrraedd yn ddiogel.
"O'n i mewn poen noson cynt," meddai Delyth, sy'n 25 oed, "ond nesh i feddwl mai jest poen yn bol o'dd o. Ond tua 10 bora wedyn o'dd rhaid i fi ffonio Mam a'n chwaer, a naethon nhw alw'r ambiwlans achos o'n i mewn gymaint o boen.
"Ond yn sydyn reit na'th y boen jest newid, ac o'n i isho pwshio. A dyna pryd nes i ffeindio allan bo fi'n disgwyl."
Dywedodd chwaer Delyth, Kate, sy'n gweithio ar ddesg gwasanaeth cwsmeriaid Asda yn yr un archfarchnad: "Fe wnaethon ni ruthro draw i helpu oherwydd nad oedd hi'n teimlo'n dda ac roedden ni'n meddwl bod ganddi appendicitis. Ar un adeg dywedodd, 'Rwy'n credu fy mod i'n cael babi', ac fe wnaethon ni chwerthin.
"Felly roedd hi'n dipyn o sioc pan ddaeth hi'n amlwg ei bod hi'n iawn! Doedd hi ddim yn dangos, a doedd hi ddim yn teimlo'r babi yn symud chwaith."
Tystysgrif geni
Dywed Delyth ei bod yn gwybod bod yr ambiwlans wedi stopio yn Asda, ond digwyddodd popeth mor gyflym wedi hynny.
"Roeddem yn mynd trwy Pwllheli yn yr ambiwlans pan ddywedon nhw y byddai'n rhaid i ni stopio", meddai Delyth.
"Roedd y fydwraig gymunedol yno ac fe ddaeth hi i mewn i'r ambiwlans, a 10 munud yn ddiweddarach cafodd ei eni."
Doedd dim amser i gael cyffuriau i leddfu'r boen, meddai, cyn i Harry gael ei eni, yn pwyso 7 pwys 7 owns.
"Dywedais wrthyn nhw, 'Plis dwedwch nad ydw i wedi rhoi genedigaeth yn Asda' a dywedon nhw fy mod i - ac y byddai'n cael ei restru fel ei fan geni ar ei dystysgrif geni.
"Rhaid ei bod yn dynged iddo gael ei eni yn Asda gyda'n cysylltiadau yno!"
Aed â Delyth a Harry i'r ysbyty ym Mangor i gael asesiad meddygol, ond roedd y ddau adref o fewn 24 awr.
Mae Delyth a Dean, sydd wedi bod yn gwpl ers saith mlynedd, wedi bod yn dweud eu newyddion rhyfeddol wrth ffrindiau a theulu, ac ar ôl iddyn nhw ddod dros y syndod mae hi'n dweud bod pawb wrth eu boddau.
"Doedd 'na neb yn coelio ni," meddai Delyth, "o'dd pobl jest yn meddwl bo fi 'di cael rhyw ddol neu rwbath, tan sylwon nhw beth oedd 'di digwydd.
"Mae teulu ni 'di bod yn ofnadwy o dda i ni," meddai, "ma nhw 'di rhedag rownd yn trio cael pob dim i ni, a hyd yn oed cyn i mi ddod allan o'r ysbyty oedd popeth yn witshad amdanan ni, felly 'da ni 'di cael support anhygoel."
A beth am Harry bach ei hun, sydd bellach yn wythnos oed?
"Mae o' di bod yn angel bach ers bo ni adre," meddai Delyth.
"Wrth edrych yn ôl faswn i'n newid dim byd, o'dd yr experience yn rhwbeth hollol wahanol, a dwi wrth fy modd efo pob munud ohono fo."