Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-0 Hartlepool
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Wrecsam a Hartlepool United fodloni ar bwynt yr un ar ddiwedd gêm galed mewn amodau anodd ar y Cae Ras.
Tarodd Mark Shelton y postyn ar ran yr ymwelwyr yn ystod hanner cyntaf a welodd prin fygythiad gan chwaraewyr Dean Keates.
Roedd yna welliant ym mhenfformiad y tîm cartref wedi'r egwyl ac fe gafodd ergyd gan Jordan Davies ei gwyro heibio'r gôl.
Cynyddodd Hartlepool y pwysau yn hwyr yn y gêm ond llwyddodd Wrexham i'w oresgyn i sicrhau pwynt.
Mae Wrecsam yn aros yn seithfed safle'r Gynghrair Genedlaethol gyda 36 o bwyntiau.