Jonathan Davies yn dychwelyd i herio Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae Wayne Pivac wedi cyhoeddi'r tîm fydd yn herio Lloegr yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn, gyda nifer o enwau mawr yn dychwelyd.
Mae Jonathan Davies yn holliach, ond mae'n dechrau fel rhif 12 yn hytrach na'r 13 arferol, gyda George North yn ymuno fel y canolwr arall.
Kieran Hardy fydd yn dechrau fel mewnwr, gyda Josh Adams hefyd yn dychwelyd ar ôl cael ei wahardd am ddwy gêm gynta'r Chwe Gwlad am dorri rheolau Covid-19.
Mae'r blaenasgellwr, Josh Navidi yn holliach hefyd, ac ef sydd wedi'i ddewis i ymuno â Justin Tipuric a Taulupe Faletau yn y rheng-ôl.
Does dim lle i Leigh Halfpenny wedi iddo ddioddef ergyd i'w ben yn erbyn Yr Alban, sy'n golygu bod Liam Williams yn symud o'r asgell i fod yn gefnwr.
Fe fydd hi'n ddiwrnod mawr i North, wrth iddo ennill ei 100fed cap rhyngwladol.
Mae Cymru wedi cael dechrau gwych i'r bencampwriaeth, gan drechu Iwerddon a'r Alban, ac fe fyddan nhw'n anelu am y Goron Driphlyg yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn.
I Loegr mae Jamie George yn ôl fel bachwr, gyda'r hyfforddwr Eddie Jones wedi dewis tîm profiadol ar gyfer eu tair i Gaerdydd.
Dau newid sydd i'r tîm wnaeth drechu'r Eidal, gyda George yn cymryd lle Luke Cowan-Dickie a Mark Wilson yn llenwi'r bwlch sydd wedi'i adael gan yr anaf i Courtney Lawes.
Canslo gêm Ffrainc a'r Alban
Yn y cyfamser mae trefnwyr y gystadleuaeth wedi gohirio'r gêm rhwng Ffrainc a'r Alban y penwythnos hwn wedi i nifer o achosion Covid ddod i'r amlwg ymysg carfan y Ffrancwyr.
Dyw hi ddim yn eglur eto pryd y bydd modd cynnal y gêm honno, ond ar hyn o bryd mae Cymru i fod i herio Ffrainc yng ngêm ola'r gystadleuaeth ar 20 Mawrth.
Tîm Cymru
Liam Williams; Louis Rees-Zammit, George North, Jonathan Davies, Josh Adams; Dan Biggar; Kieran Hardy; Wyn Jones, Ken Owens, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (c), Josh Navidi, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Elliot Dee, Rhodri Jones Leon Brown, Cory Hill, James Botham, Gareth Davies, Callum Sheedy, Willis Halaholo.
Tîm Lloegr
Elliot Daly; Anthony Watson, Henry Slade, Owen Farrell, Jonny May; George Ford, Ben Youngs; Mako Vunipola, Jamie George, Kyle Sinckler, Maro Itoje, Jonny Hill, Mark Wilson, Tom Curry, Billy Vunipola
Eilyddion: Luke Cowan-Dickie, Ellis Genge, Will Stuart, Charlie Ewels, George Martin, Ben Earl, Dan Robson, Max Malins
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021