Chwe Gwlad: Y cylch yn troi’n gyflawn?
- Cyhoeddwyd
Dim ond llond dwrn o'r garfan bresennol oedd yn Twickenham naw mlynedd yn ôl, sef y tro diwethaf roedd y Goron Driphlyg yn y fantol i Gymru yn erbyn yr hen elyn.
Yn debyg i eleni roedd tîm Sam Warburton yn barod wedi curo'r Gwyddelod a'r Albanwyr ac yn codi stêm cyn teithio i Lundain.
Ar wahân i'r wobr, roedd y prynhawn hwnnw yn un nodedig i'r bachwr Ken Owens.
Wedi aros yn amyneddgar fe ddaeth ei gap cyntaf yn New Plymouth, Seland Newydd o bobman yng Nghwpan y Byd yr hydref cynt.
Serch hynny doedd y 'Sheriff', fel caiff ei adnabod, dal heb ddechrau dros ei wlad tan y prynhawn hwnnw yn HQ.
Ac am bnawn i'w gynnwys am y tro cyntaf yn y 15 cychwynnol.
"Roedd hi'n gêm glos nôl a 'mlaen, dwi'n cofio tacl anhygoel Sam [Warburton] ar Manu Tuilagi ar ddiwedd yr hanner cyntaf i gadw ni yn y gêm achos o'n i o dan bwyse ar y pryd," meddai Ken.
"Roedd lot o densiwn yn yr ail hanner - doedd hi ddim yn glasur, jest brwydr gorfforol galed fel byddech chi'n disgwyl mewn gêm o'r fath, a moment o ddawn unigol Scott Williams yn setlo pethe."
Mae 'na rywfaint o ailfeddwl wrth ddweud y gair "setlo", oherwydd daeth y tîm cartre' o fewn trwch blewyn i gipio hi o grafangau'r Cymry yn yr eiliadau olaf.
"Roedd pawb wedi rhoi popeth at yr achos, ac o' ni o dan lot o bwyse a thacl arwrol Leigh Halfpenny ar Dave Strettle yn achub y dydd."
'Pawb yn yr un cwch'
Ar drothwy cap rhyngwladol rhif 80, yr un yw'r gwrthwynebwyr, ac ie, eto y Goron Driphlyg sydd o fewn cyrraedd.
Ond mae'r amgylchiadau mor wahanol y tro hwn, ac yn gwrthgyferbynnu'n llwyr i'r golygfeydd ddwy flynedd yn ôl pan oedd y stadiwm yn ferw gwyllt wedi buddugoliaeth gofiadwy ar y ffordd at y Gamp Lawn.
Pa mor annifyr felly yw'r sefyllfa i'r chwaraewyr, a faint o ffactor fydd gorfod ymdopi heb ysbrydoliaeth ac emosiwn y dorf?
"Mae yn wahanol ma' mwy wedi nghlywed i yn canu mas o diwn i ddechre!" meddai Ken.
"Yn amlwg mae'n cael effaith oherwydd ma' chwaraewyr yn ymateb ac yn tyfu oddi ar egni'r dorf, ond mae'n rhywbeth mae pawb wedi dysgu i ddelio gydag e ac addasu - ma' pawb yn yr un cwch.
"Mae timoedd yn delio â'r sefyllfa yn wahanol ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig fel unigolyn i ddod o hyd i'r hyn sydd yn eich gwthio chi ymlaen, a dod o hyd i'r egni a'r dwyster sy'n hanfodol mewn gêm ryngwladol.
"Alla i ddweud wrtho chi, mae'r ysgwydd yn brifo yn yr un modd pe bai 80,000 yno neu beidio.
"Mae'r ddwy gêm ry'n ni wedi chwarae hyd yn hyn wedi bod yn gorfforol iawn yn gwmws fel gemau'r gorffennol yn y Chwe Gwlad."
Roedd Ken yn un o'r hoelion wyth yn yr ymgyrch ddwy flynedd yn ôl pan Lloegr, fel eleni, oedd y drydedd gêm a'r un allweddol ar drywydd y Gamp Lawn.
Bryd hynny roedd nifer yn dal i amau'r tîm cenedlaethol wedi dau berfformiad nad oedd wedi argyhoeddi'n llwyr, ac yn hynny o beth mae yna gymariaethau â sut mae'r gystadleuaeth yn datblygu y tro hwn.
'Mynd o dan y radar'
"Ry'n ni 'di mynd o dan y radar rhywfaint wedi'r bythefnos gyntaf," meddai Ken.
"Doedd neb yn disgwyl unrhyw beth wrthym ni ar drothwy'r gystadleuaeth - roedd y sefyllfa rhywfaint yn wahanol yn 2019 ar ôl i ni gael hydref calonogol.
"Mae modd cymharu, ond ma' Lloegr mewn sefyllfa ychydig yn wahanol - maen nhw siŵr o fod yn siomedig ar ôl colli'r gêm yn erbyn Yr Alban, ond wedi'r perfformiad yn erbyn Yr Eidal dwi'n siŵr eu bod nhw'n barod i godi'r dwyster eto yng Nghaerdydd.
"Dwi ddim yn un sy'n cymharu cystadlaethau'r gorffennol a bod yn onest - ma' shwd ma'r gemau'n cwympo yn debyg ond 'na i ddweud wrthych chi os ydyn nhw'n debyg ar ôl i'r gystadleuaeth ddod i ben."
Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod o hel meddyliau i nifer, a'r sefyllfa yn dangos pa mor fregus yw pawb wrth ddod wyneb yn wyneb â'r pandemig.
Roedd y cyfnod clo y llynedd yn gyfle i Ken Owens ailgynnau'r fflam wedi sawl blwyddyn ddi-dor o rygbi proffesiynol, ac er iddi fynd yn anoddach ar y corff gyda phob blwyddyn sy'n pasio, mae diwrnodau fel dydd Sadwrn yn gallu bod yn brin.
Covid neu beidio, ma' hon yn golygu gymaint yn fwy na phob gêm arall, a byddai Coron Driphlyg yr un mor arbennig heddi ag yr oedd hi yng nghartref rygbi Lloegr naw mlynedd yn ôl.
Hefyd o ddiddordeb: