Arolwg: Agweddau at bleidleisio a Senedd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
The Senedd building in Cardiff BayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae etholiad Senedd Cymru i fod i gael ei gynnal ar 6 Mai

Mae'r Blaid Lafur mewn "safle cryf" i ddod yn gyntaf yn etholiad y Senedd yn ôl arolwg barn blynyddol Dydd Gŵyl Dewi ar gyfer BBC Cymru.

Mae'r arolwg yn awgrymu bod Llafur yn cipio 30 sedd, Plaid Cymru 15, y Ceidwadwyr 13 a'r Democratiaid Rhyddfrydol ac UKIP yn cipio un sedd yr un.

Mae'r ymchwil, gan gwmni ICM Unlimited, yn nodi hefyd bod mwy o gefnogaeth i annibyniaeth i Gymru gydag awgrym bod nifer y rhai sydd am i Gymru adael y DU yn 14% - 11% yn uwch na llynedd.

Mae'r gefnogaeth i ddiddymu'r Senedd yn dangos rhywfaint o newid o gymharu â'r llynedd - i fyny un y cant i 15%.

Mae pôl piniwn eleni wedi holi pobl ifanc 16 ac 17 oed gan y bydd hawl ganddyn nhw bleidleisio yn etholiad Senedd Cymru am y tro cyntaf.

Bwriadau pleidleisio

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r arolwg yn dangos y byddai y bleidlais etholaethol i Lafur ym mis Mai yn 39% - cynnydd o wyth y cant ers y llynedd a dyma fyddai canlyniad gorau y Blaid Lafur ers iddyn nhw sgorio 40% yn Chwefror 2018.

Mae'n nodi y byddai canran y Ceidwadwyr o'r bleidlais yn gostwng saith y cant ers 2020 - i lawr i 24% o 31%.

Byddai canlyniad felly yn rhoi'r gefnogaeth i'r Ceidwadwyr yn gyfartal â'r gefnogaeth i Blaid Cymru - sydd wedi colli dau y cant o gefnogaeth ers yr un amser y llynedd.

Mae'r gefnogaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd ychydig yn is - lawr i 4%.

O ran y bleidlais etholaethol mae'n ymddangos bod cyfran Llafur o'r bleidlais wedi cynyddu chwech y cant i 37% - tra bod y gefnogaeth i'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn 22% - cefnogaeth i'r naill blaid wedi gostwng saith y cant a'r llall dri y cant ers y llynedd.

Mae'r gefnogaeth i UKIP wedi cynyddu 4% ers y llynedd ac mae plaid Diddymu'r Cynulliad hefyd wedi sgorio 4%.

Mae'r Athro Roger Awan-Scully, Pennaeth Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhynglwadol ym Mhrifysgol Caerdydd yn darogan a ganlyn. Mae ei ddadansoddiad wedi'i seilio ar y gogwydd unffurf cenedlaethol ers etholiad 2016.

  • Llafur 30

  • Plaid Cymru 15

  • Ceidwadwyr 13

  • Democratiaid Rhyddfrydol 1

  • UKIP 1

Wrth ymateb i'r arolwg dywed yr Athro Awan-Scully: "Mae arolwg BBC/ICM yn awgrymu bod Llafur mewn safle cryf, unwaith eto, i ennill etholiad Senedd Cymru.

"Mae Llafur wedi ennill mwyafrif y pleidleisiau a mwyafrif y seddi yn y pum etholiad datganoledig blaenorol yng Nghymru.

"A thra bod nifer o bethau yn mynd i fod yn dra gwahanol am etholiad eleni - mae'n ymddangos mai un parhad yw mai Llafur fydd ar y blaen unwaith eto.

"Mae'n ymddangos y bydd y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn cystadlu'n agos am yr ail safle ac mae'r ddwy blaid yn edrych fel petaen nhw yn mynd i gynyddu nifer eu seddi yn y Senedd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr Athro Roger Awan-Scully y bydd y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn cystadlu am yr ail safle

"Mae'n bosib na fydd y ddwy blaid arall a enillodd seddi yn 2016 yn cael yr un sedd. Mae'r pôI piniwn yn dangos y bydd y ddwy blaid yn cipio un sedd yr un ond o drwch blewyn.

"Bydd hi'n anodd i'r Democratiaid Rhyddfrydol o bosib gadw sedd Brycheiniog a Maesyfed gan na fydd Kirsty Williams yn ymgeisydd y tro hwn."

Dadansoddiad Vaughan Roderick

Mae'n rheol euraidd yn etholiadau'r Senedd y bydd Llafur yn ennill oddeutu hanner y seddi os nad yw naill ai'r Ceidwadwyr neu Blaid Cymru yn llwyddo i gipio etholaethau. Does 'na ddim digon o seddi rhanbarthol i sicrhau cynrychiolaeth gyfrannol heb i hynny ddigwydd.

Fel sydd wedi digwydd yn aml o'r blaen mae'r arolwg yn awgrymu bod y Torïaid a Phlaid Cymru yn cwffio am yr ail safle tra'n methu torri crib y Blaid Lafur.

Llafur fydd hapusaf â'r arolwg felly er bod gan y ddwy blaid fawr arall sylfeini cadarn i adeiladu arnyn nhw.

Fe fydd y tair plaid fel ei gilydd yn teimlo rhyddhad nad oes yna unrhyw arwydd eto y gallai un o'r pleidiau llai, sy'n cynnwys y Democratiaid Rhyddfrydol y dyddiau hyn, efelychu camp UKIP bum mlynedd yn ôl wrth gipio seddi rhestr.

Annibyniaeth

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dyw pôl piniwn Gŵyl Dewi y BBC ddim wedi gweld cymaint o gefnogaeth i annibyniaeth. Yn yr arolwg eleni dywedodd 14% eu bod yn credu "y dylai Cymru fod yn annibynnol ac ar wahân i'r DU". Mae hynny dri phwynt yn uwch na 2020.

Er bod mwy o gefnogaeth i annibyniaeth, yr ateb mwyaf cyffredin yw y "dylai Senedd Cymru gael mwy o bwerau na'r hyn sydd ganddi ar hyn o bryd" - roedd 35% wedi nodi hynny ond mae'r canran hwnnw wedi gostwng wyth pwynt ers y llynedd.

Mae'r gefnogaeth dros ddiddymu Senedd Cymru wedi codi un y cant ers y llynedd a bellach yn 15%.

Dywed yr Athro Awan-Scully: "Mae'r pôl piniwn newydd hwn yn cadarnhau bod mwy o gefnogaeth i annibyniaeth yng Nghymru - yn 2014 roedd y ganran yn 3% ond bellach mae'n un deg pedwar y cant.

"Er bod yna dwf yn y rhai sydd am weld annibyniaeth, mae yna gryn gefnogaeth yng Nghymru i gael gwared â datganoli yn llwyr - ac y mae 15% o'r rhai a wnaeth ateb o blaid hynny."

Pleidleiswyr iau

Bydd etholiad y Senedd eleni yn wahanol i'r rhai blaenorol gan y bydd hawl gan bobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio am y tro cyntaf.

Dywedodd yr Athro Awan-Scully: "Mae nifer wedi gofyn faint o wahaniaeth y gall hyn ei wneud - ac er siom i'r rhai sy'n gofyn yr ateb yw 'dim llawer'.

"Mae tystiolaeth yn awgrymu fod y pleidleiswyr yma yn gwyro fwy at bleidiau'r chwith - Llafur a Phlaid Cymru.

"Dyw hi ddim yn edrych yn debygol y bydd digon o bobl ifanc 16 ac 17 oed yn pleidleisio i wneud gwahaniaeth mawr.

"Ond eto mi allan nhw wneud gwahaniaeth mewn etholaethau lle mae'n agos - ac os yw canlyniad yr etholiad cyfan yn agos mi allai eu pleidlais wneud gwahaniaeth ond dyw hynny ddim yn debygol."

Fe wnaeth ICM Unlimited gyfweld â sampl gynrychiadol o 1,001 o bobl oed 16+ ar y ffôn rhwng Ion 28 a Chwe 21 2021.Cafodd cyfweliadau eu cynnal ar draws Cymru. Mae ICM yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn dilyn ei reolau.