Cyhoeddi bil i ganiatáu gohirio etholiadau'r Senedd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Bwrw pleidlaisFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe allai etholiadau Senedd Cymru eleni gael eu gohirio nes cyn hwyred â 5 Tachwedd dan gynigion Llywodraeth Cymru.

Dywed gweinidogion eu bod yn cymryd camau rhag ofn i'r pandemig atal cynnal yr etholiad yn ddiogel ar 6 Mai.

Byddai etholwyr hefyd yn gallu danfon rhywun i bleidleisio ar ei rhan os oes rhaid iddyn nhw hunan-ynysu.

Dywed gwrthwynebwyr bod rhaid i weinidogion egluro dan ba amgylchiadau y bydden nhw'n ceisio newid dyddiad y bleidlais.

Mae Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn caniatáu symud dyddiad yr etholiad hyd at chwe mis, os yw dau o bob tri Aelod o'r Senedd yn cytuno.

Mae hefyd yn gohirio diddymiad y Senedd - y dyddiad pan fo tymor presennol y sefydliad yn dod i ben.

Dan y bil, ni fyddai'r diddymiad yn digwydd tan wythnos cyn yr etholiad, yn hytrach na'r 21 diwrnod arferol, fel bod aelodau'n gallu parhau i gyfarfod er mwyn delio ag unrhyw ddeddfwriaeth yn ymwneud â Covid-19.

Byddai pleidlais trwy ddirprwy ar gael i bobl na allai fynd i orsaf bleidleisio o ganlyniad coronafeirws - er enghraifft, petai angen iddyn nhw hunan-ynysu.

'Angen nodi'n fanwl y trothwy dros ohirio'

Dywedodd y gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James fod y llywodraeth yn ymroddi i gynnal etholiad ar 6 Mai, ond "mae'n rhaid i ni weithredu nawr i ymateb i'r risgiau posib i'r etholiad yn sgil y pandemig".

Ychwanegodd: "O ystyried natur anrhagweladwy'r feirws, mae yna gryn ansicrwydd beth fydd y sefyllfa o ran iechyd cyhoeddus ym mis Mai."

Dywedodd y Ceidwadwyr y bydden nhw'n "benthyg" eu cefnogaeth i weinidogion er mwyn cyflwyno'r bil.

Ond dywedodd yr AS Ceidwadol, Mark Isherwood bod Llywodraeth Cymru "heb ddweud yma mha sefyllfa mae angen i'r pandemig fod er mwyn gohirio etholiad".

Ychwanegodd: "Er mwyn i'n cefnogaeth barhau, bydd rhaid i Lywodraeth Cymru nodi'n fanwl y trothwy angenrheidiol cyn i'r prif weinidog ofyn yn ffurfiol am ohirio."