'Fydden i ddim 'ma heddi oni bai am yr ambiwlans awyr'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Allai'm diolch digon i'r ambiwlans awyr,' medd Nerys Jones

"Fyddwn i ddim yma heddiw oni bai am wasanaeth elusen Ambiwlans Awyr Cymru."

Ar ddiwrnod dathlu pen-blwydd yr elusen yn 20 oed, dywed Nerys Jones na all hi a'i theulu ddiolch digon i'r gwasanaeth am achub ei bywyd yn 2009.

"Fi'n cofio'n iawn," meddai wrth siarad â Cymru Fyw, "ro'dd hi'n ddiwrnod cneifio fferm drws nesaf ac ar ddiwedd y prynhawn es i dorri ysgall cae go serth.

"Wedi cyrraedd top y cae fe a'th ryw bang yn y tractor - ro'dd y brêcs wedi methu a dyma fe'n llithro tuag yn ôl i lawr y llethr nes bod y peiriant torri ysgall yn mynd yn syth i goeden - a'r canlyniad oedd i fi dorri fy nghefn mewn dau le, fy ngwddf ac roedd gwaed yn pistyllio o fy mraich i."

Mae Nerys Jones yn helpu ei thad ar fferm deuluol Pantycelyn yn Llanymddyfri.

"Yn ffodus daeth yr ambiwlans awyr a mynd â fi i Dreforys yn gyflym - do'dd dim posib hedfan yn uchel oherwydd y difrod i nghefn i," ychwanegodd.

Disgrifiad o’r llun,

Codi arian i elusen Ambiwlans Cymru flwyddyn wedi damwain Nerys

"Fi ddim yn cofio lot ond wi'n gwybod bo fi wedi bod mor lwcus o'r gwasanaeth - a'r flwyddyn wedyn fe wnaeth Clwb Gwawr Llangadog drefnu taith gerdded noddedig i ddiolch i'r elusen am fy achub i.

"Mae pob taith yn costio cannoedd o bunnau ac ro'n yn teimlo bod yn rhaid i fi dalu nôl," ychwanegodd Nerys Jones.

'Pwysig cael triniaeth frys'

Un arall sydd wedi codi miloedd i elusen Ambiwlans Awyr Cymru yw Elfed Williams o Drefor ger Caernarfon a hynny wedi i'r elusen achub bywyd ei fab yn Awst 2013.

Ffynhonnell y llun, Elfed Williams
Disgrifiad o’r llun,

Ar wythnos 51 fe ddringodd Tomos Yr Wyddfa gyda'i dad Elfed Williams

Yn 2017 fe gerddodd Elfed 'Gyrn Goch' - fel y maen cael ei adnabod - Yr Wyddfa bob wythnos o'r flwyddyn i ddiolch i'r elusen am achub Tomos Huw oedd yn 20 oed ar y pryd.

"Bwrw ei ben yn galed ar goncrit wnaeth Tomos Huw wrth ddadlwytho lori ym Mlaenau Ffestiniog.

"Mi na'th rywbeth ddisgyn ar ei ben o wnaeth beri iddo ddisgyn oddi ar drelar y lori.

"A'th yr ambiwlans awyr ag o i Fangor i ddechrau ac yna i Stoke - roedd hi mor bwysig ei fod yn cael triniaeth yn fuan.

"Roedd ei ben wedi chwyddo wrth i glot ffurfio - oni bai am yr ambiwlans awyr fyddai fo ddim yma heddiw.

"Mae o bellach yn ei ugeiniau hwyr ac yn gyrru lorïau ar y cyfandir.

"Mae gwasanaeth yr elusen mor bwysig - yn enwedig mewn ardal wledig. Pan fyddai'n gweld yr hofrennydd yn yr awyr fydd profiad Tomos yn dod nôl i fi ond fyddai'n meddwl ar yr un pryd pa mor werthfawr yw'r gwasanaeth," ychwanegodd Mr Williams.

38,000 o alwadau

Y diweddar Robert Palmer a sefydlodd yr elusen yn 2001.

Ar y dechrau un hofrennydd ym maes awyr Abertawe oedd gan y gwasanaeth ond bellach dyma'r gwasanaeth ambiwlans awyr mwyaf yn y DU.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen £8m y flwyddyn i gynnal y gwasanaeth

Mae gan y gwasanaeth erbyn hyn bedwar hofrennydd - wedi'u lleoli yng Nghaernarfon, y Trallwng, Llanelli a Chaerdydd.

Yn ystod y degawd diwethaf mae wedi datblygu o fod yn wasanaeth a oedd yn cael ei arwain gan barafeddygon i wasanaeth sydd yn cael ei arwain gan feddygon ymgynghorol ac ers Rhagfyr 2020 mae'n gweithredu bob awr o'r dydd.

Ers ei sefydlu, mae'r elusen wedi ymateb i oddeutu 38,000 o alwadau ac er ei bod yn gweithio mewn partneriaeth â GIG Cymru mae'n hollol ddibynnol ar roddion elusennol.

Er mwyn i'r hofrenyddion allu gweithredu bob awr o'r dydd a'r nos, mae angen codi £8m bob blwyddyn.

Mae'r elusen hefyd yn rhedeg y gwasanaeth,  Ambiwlans Awyr Cymru i Blant, sy'n cludo tua 400 o blant y flwyddyn i ysbytai ledled y DU.

Diolch

Mae Mark James yn un o'r gwirfoddolwyr gwreiddiol a dywed ei fod yn hynod o falch fod y gwasanaeth wedi mynd o nerth i nerth.

Disgrifiad,

Mark James, un o'r gwirfoddolwyr cyntaf, yn diolch i bobl Cymru am yr holl gyfraniadau i'r elusen Ambiwlans Awyr Cymru

"Mi fydd yr elusen yn datblygu eto yn y dyfodol," meddai, "yr hyn rwy' eisiau ei wneud fwyaf heddiw yw diolch i bawb sydd wedi helpu ar hyd y blynyddoedd - yn staff, gwirfoddolwyr, peilotiaid, parafeddygon, meddygon ac wrth gwrs y bobl sydd wedi rhoi arian ar hyd y blynyddoedd i gynnal y gwasanaeth."

Yn ystod y flwyddyn bydd nifer o weithgareddau yn cael eu cynnal i nodi'r ugain mlynedd.

Pynciau cysylltiedig