Siop Corwas yn cau ar ôl 117 mlynedd o werthu cig

  • Cyhoeddwyd
Owen Roberts
Disgrifiad o’r llun,

"Bydd heddiw yn ddiwrnod emosiynol," medd Owen Roberts

Ar ôl 117 o flynyddoedd bydd Siop Owen Roberts a'i fab, neu Siop Corwas, yn nhref Amlwch yn cau ei drysau.

Mae Teulu Roberts wedi bod yn cyflenwi cig i drigolion Amlwch a'r cylch ers 1903 o Stryd y Farchnad.

Owen Roberts a sefydlodd y busnes ar ôl symud o dyddyn o'r enw Corwas yn ardal Cerrig Mân ger Pen-sarn er mwyn gwerthu cig yn Amlwch.

Y perchennog presennol, sydd hefyd wedi'i enwi yn Owen Roberts, yw'r bedwaredd genhedlaeth o'i deulu i gadw'r siop.

Fe gychwynnodd weithio yno yn syth o'r ysgol yn 16 oed.

Ynghanol y 1990au mi gymerodd drosodd gan ei dad Wyn.

Ond ar ôl dathlu ei ben-blwydd yn 59 oed ddechrau'r mis mae o wedi penderfynu rhoi'r gorau iddi.

"Dwi wedi bod yn ystyried ymddeol ers tua tair blynedd ac wedi meddwl erioed y buaswn yn cymryd y cam hynny pan oeddwn yn 60 - ond dyna ni dwi wedi penderfynu gneud blwyddyn yn fuan," meddai.

Mae Owen Roberts rŵan yn gobeithio canolbwyntio ar un o'i ddiddordebau, sef gwersylla.

"Dwi wedi mwynhau campio ers blynyddoedd ac roedd cadw'r siop yn gneud hynny'n anodd, ond mi fydd gen i ddigon o amser rŵan gobeithio i allu mwynhau gwneud hynny."

'Wedi wynebu sawl her'

Er nad yw'r siop yn cau oherwydd effaith y pandemig, mae Owen Roberts yn cyfaddef fod effaith yr haint wedi cyflymu rywfaint ar ei benderfyniad i ymddeol.

"Mae o wedi rhoi rhyw fath o rubber stamp ar fy mhenderfyniad… ond cofiwch chi mi ydan ni fel bwtcheriaid wedi wynebu sawl her dros y blynyddoedd o glwy'r traed a'r genau i BSE a helynt Chernobyl," ychwanegodd.

Mae'r siop wedi ehangu i werthu pob math o seigiau ar wahân i gig gan gynnwys ambell botel o win a chawsiau.

Hyd at 2003 roedd gan y siop ei lladd-dy ei hun. Dros y blynyddoedd mae'r teulu wedi llwyddo i ennill gwobrau am eu cynnyrch o selsig i'w porc peis a byrgyrs.

Ynghyd ag Owen roedd ei chwaer Medi hefyd yn gweithio yn y siop yn ogystal â dau arall sef Nigel a Gwen.

Mae Owen yn cyfaddef y bydd cau'r siop am y tro olaf yn foment emosiynol.

"Ma'r lle ma'n llawn atgofion a ma' pobl yn gofyn i fi sut fyddai'n teimlo - y gwir amdani ydi dwi ddim yn gwybod.

"'Dan ni wedi bod yn lwcus o'n cwsmeriaid - ma' nhw wedi bod yn ardderchog dros y blynyddoedd a diolch iddyn nhw i gyd."

Pynciau cysylltiedig