Cigyddion Cymru'n camu i'r adwy i helpu cymunedau

  • Cyhoeddwyd
Carl Williams o siop cigydd Wavells, Llanrug
Disgrifiad o’r llun,

Carl Williams yn barod i fynd allan i ddanfon rhagor o gig o siop Wavells, Llanrug

'Da ni wedi clywed am yr heriau sy'n wynebu'r byd amaeth yn sgil coronafeirws - ond mae'n ymddangos bod rhai siopau cig yn brysurach nag erioed.

Gyda silffoedd y siopau mawr yn gwagio a'r gorchymyn i aros adre', mae nifer o gwsmeriaid yn troi at ffyrdd gwahanol i gael eu bwyd.

Mae sawl cigydd yng Nghymru wedi dechrau gwerthu eu cynnyrch ar y we neu dros y ffôn, a chludo cig i'r cartrefi er mwyn parhau gyda'u busnes.

Un busnes sydd wedi bod yn brysur gydag archebion o'r fath dros y pythefnos diwetha' ydy Wavells yn Llanrug, Gwynedd, fel yr esbonia un o'r cigyddion sy'n gweithio yno, Carl Williams.

Disgrifiad o’r llun,

Llwytho rhagor o archebion i'w danfon i gwsmeriaid

"Mae wedi bod fel ffair yr wythnosau diwetha' d'eud gwir - y llefydd odda ni arfer cyflenwi, tai bwyta a thafarndai a ballu, i gyd wedi cau," meddai.

"Ond ma' petha' 'di newid efo'r delivery service rŵan. Mae'r cwsmer yn naill ai ffonio'r siop, neu mae 'na dudalen Facebook neu e-bost.

"'Da ni'n sortio'r archebion yn y nos a chael pethau'n barod yn y bore yn barod i fynd allan i'r cwsmeriaid."

Disgrifiad o’r llun,

Cigyddion siop Wavells, Llanrug

"Mae 'na gwsmeriaid sy' efo ni ers blynyddoedd, ond mae 'na rai newydd hefyd sy' wedi bod yn stryglo i gael cig, wedyn 'da ni 'di bod allan i helpu nhw hefyd," meddai Mr Williams.

Mae'r busnes yn credu bod ganddyn nhw rôl i'w chwarae yn cefnogi'r gymuned.

"Pan 'nath yr helbul 'ma ddechra', o'dd lot o'n cwsmeriaid hŷn ni 'di dechrau self-isolation, felly 'nathon ni ddechrau efo nhw ac mae o 'di tyfu o hynny.

"'Da ni'n paratoi bocsys ac mae 'na bethau fel mins a stewing steak, rheiny sy' fwya' poblogaidd ar y funud.

"O'dd 'na brinder cyw iâr w'sos diwetha' ond mae bob dim yn ôl i be' oedd o rŵan cyn y panic buying 'ma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na gyfyngiadau llym yn y siop hefyd

Mae 'na drefniadau llym mewn lle i sicrhau bod y cig yn cael ei gludo mewn ffordd ddiogel i bawb.

"Pan 'da ni yn delifro, fydda' i jyst yn rhoi cnoc ar y drws a g'neud yn siwr bod nhw'n g'wbod bod y cig yno a jyst cadw pellter o'r cwsmer," esbonia Mr Williams.

Ac i'r rhai sy'n gallu dod o'u cartrefi, mae 'na reolau llym yn y siop gyda dim ond tri chwsmer yn cael bod yno ar y tro ac arwyddion i bobl beidio cyffwrdd yn y cownteri.

Cigyddion yn dosbarthu llysiau

Er yr heriau sy'n wynebu'r byd amaeth, mae arbenigwyr o fewn y diwydiant yn obeithiol bod modd i gigyddion addasu, fel yr esbonia Rhys Llywelyn o Hybu Cig Cymru.

"Be 'da ni'n gweld yw bod lot o bwtseriaid lleol, stryd fawr wedi newid y ffordd ma' nhw'n gwerthu - wrth gwrs dydyn nhw ddim eisiau cymaint o bobl yn siop, dydyn nhw ddim eisiau peryglu y staff," meddai.

"Felly be' ma' nhw'n dueddol o wneud yw ei bod nhw yn dosbarthu cig, ond hefyd wedi newid i ddosbarthu nifer o gynhyrchion eraill - llysiau, wyau a llaeth - yn enwedig ar gyfer y mwya' bregus yn ein cymdeithas.

"Mae rôl y cigydd wastad wedi bod yn rôl ganolog ar y stryd fawr a ma' nhw'n dod a sefyll yn y bwlch, gwneud gwaith gwerthfawr iawn yn ein cymunedau ni'n cadw pethau i fynd a sicrhau bod pobl yn bwyta bwyd iachus, maethlon ac yn gallu cael mynediad at y bwyd yma yn ddi-drafferth."