Bygythiad i gynlluniau ynni dŵr preifat Cymru

  • Cyhoeddwyd
cynllun hydro

Mae cynlluniau ynni dŵr preifat yng Nghymru "ar y dibyn" oherwydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddileu rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer rhai prosiectau o ddechrau mis Ebrill.

Yn ôl Cymdeithas Pŵer Hydro Prydain (BHA) mae penderfyniad y llywodraeth yn dangos nad oes ots ganddi am ynni dŵr.

Mae'r BHA yn galw ar y llywodraeth yng Nghaerdydd i ddilyn esiampl Llywodraeth Yr Alban sydd wedi ymrwymo i gynllun rhyddhad ardrethi tan 2032. Bydd hynny'n costio degau o filiynau o bunnoedd - amcangyfrifir bod y gefnogaeth i gynlluniau preifat yng Nghymru yn costio llai na hanner miliwn o bunnau'r flwyddyn.

Dywed Llywodraeth Cymru fod dros hanner anghenion trydan Cymru bellach yn cael eu diwallu trwy ynni adnewyddadwy, gan gynnwys cyfraniad o 2% gan 363 o brosiectau ynni dŵr, ac nad oes ganddi dystiolaeth o unrhyw brosiectau yn peidio â gweithredu oherwydd costau anghynaladwy.

Mae cynlluniau hydro yn harneisio pŵer dŵr wrth iddo lifo trwy dyrbin i helpu i gynhyrchu trydan.

Mae Ed Bailey yn rhedeg cwmni sydd wedi cynghori ffermwyr ar sefydlu cynlluniau ynni dŵr ar eu tir.

"Mae dros 50 o berchnogion cynlluniau hydro bach yn cael eu heffeithio gan hyn," meddai.

"Dyw'r rhain ddim yn gynlluniau cymunedol ond mae'r perchnogion yn agos iawn at eu cymunedau - ffermwyr ydyn nhw yn bennaf. Rwy'n credu bod hyn yn anfon neges negyddol iawn at y rhai a fyddai fel arall yn ystyried buddsoddi mewn cynlluniau ynni dŵr."

Dywedodd Mr Bailey y gallai mwy na 30 o'r 52 o weithredwyr a gafodd y rhyddhad ardrethi gau neu werthu eu cynlluniau hydro.

Disgrifiad o’r llun,

Richard Vaughan yn gweithio ar dyrbin ei gynllun hydro ar ei fferm ger Rhydymain

Mae'r pryderon yn deillio o'r ffordd y cafodd cyfraddau busnes ledled Prydain eu hailgyfrifo yn 2017 gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Ar ôl hynny fe wnaeth trethi busnes cynlluniau hydro gynyddu'n sylweddol, rhai cymaint â 1,000%.

Yn 2018, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi yn cynnig grantiau i dalu am rai o'r costau.

Disgwylir i'r rhyddhad ardrethi ddod i ben ar gyfer cynlluniau ynni dŵr preifat ar Ebrill 1af, ond bydd yn parhau ar gyfer prosiectau hydro cymunedol.

Dywedodd Simon Hamlyn, Prif Weithredwr y BHA: "Rwy'n credu bod y penderfyniad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i dynnu'r cynllun grant yn ôl yn gadael llawer o'n haelodau a gweithredwyr hydro eraill ar ymyl y dibyn.

"Roedd croeso mawr i'r grantiau, ac mae'r diwydiant wedi'u gwerthfawrogi'n fawr, ond heb unrhyw drafodaeth nac ymgynghoriad fe dynnodd Llywodraeth Cymru y cynllun hwn yn ôl yn sydyn, heb rybudd, ac mae llawer o'n haelodau yn bryderus iawn, iawn am yr effaith."

Mae'r BHA wedi ysgrifennu at Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn galw ar Lywodraeth Cymru i "ddilyn esiampl" Yr Alban. Dywed y BHA fod Llywodraeth Yr Alban wedi ymestyn cynllun rhyddhad ardrethi busnes o 60% tan 2032.

Dywedodd Simon Hamlyn: "Mae hynny'n dangos gwir ymrwymiad i ynni gwyrdd yn Yr Alban. Yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddangos [yw] nad ydyn nhw wir yn poeni am hydro.

"Roedd cyhoeddi argyfwng hinsawdd [fel y gwnaeth Llywodraeth Cymru yn 2019] ac ar yr un pryd i gael gwared ar y cynllun grantiau sydd yn helpu cynhyrchu ynni gwyrdd yn wallus a dweud y lleiaf."

Sefydlodd Richard Vaughan, ffermwr ym Meirionydd, gynllun ynni dŵr ar ei dir ger Rhydymain yn 2016. Pan ddigwyddodd yr ailbrisio yn 2017 dywed fod ei gyfraddau busnes wedi cynyddu 800%.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae gorfod talu'r bil trethi llawn yn amlwg yn gynnydd sylweddol yn fy nghostau," medd Richard Vaughan

Dywedodd Mr Vaughan "Doeddwn i ddim yn deall sut y daethon nhw at y ffigyrau hyn, ond dyna a wnaeth yr Asiantaeth Brisio. Mae gorfod talu'r bil trethi llawn yn amlwg yn gynnydd sylweddol yn fy nghostau, a bydd yn gostwng yr elw y gallaf i ei wneud.

"Mae'r neges yn uchel ac yn glir - os ydyn nhw am gael pobl i fuddsoddi yn y prosiectau hyn, mae'n rhaid iddyn nhw ddangos y gefnogaeth. Fel arall, nid ydyn nhw'n mynd i gael y buddsoddwyr i roi'r cynlluniau hyn ar waith. Nid yw'n mynd i gyfrannu at eu helpu i gyflawni eu targedau ar gyfer cyrraedd sero carbon erbyn 2050."

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae dros hanner anghenion trydan Cymru bellach yn cael eu diwallu trwy ynni adnewyddadwy, gan gynnwys cyfraniad o 2% gan 363 o brosiectau ynni dŵr Cymru.

"Rydym hefyd 83% o'r ffordd tuag at gyrraedd ein targed perchnogaeth leol o 1GW erbyn 2030 - gyda 825 MW o gapasiti ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol."

Dywed y llywodraeth fod y cynllun rhyddhad ardrethi wedi darparu mwy na £1m o gefnogaeth i'r sector. Mae 52 o brosiectau ynni dŵr preifat wedi'u cefnogi eleni.

Ychwanegodd y llefarydd fod y Llywodraeth wedi "gweithio'n agos gyda Chymdeithas Pŵer Hydro Prydain i fynd i'r afael ag effaith ailbrisio cyfraddau busnes 2017 ar y sector, a bydd yn ystyried opsiynau ar gyfer cefnogaeth tymor hirach ar gyfer ynni dŵr a thechnolegau adnewyddadwy eraill pan fydd yr ailbrisiad nesaf yn digwydd yn 2023".

"Mae effaith Covid19 wedi rhoi pwysau digynsail ar gyllidebau ac mae angen gwneud penderfyniadau anodd ar ble i flaenoriaethu cefnogaeth yn y dyfodol.

"Hyd yn hyn, nid oes gennym unrhyw dystiolaeth bod prosiectau ynni dŵr yn peidio â gweithredu oherwydd costau anghynaladwy."