£93m gan Sunak i hybu'r economi werdd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Dywed adran Drysorlys y DU y byddant yn buddsoddi £93m er mwyn "hybu adferiad yr economi werdd yng Nghymru".
Fe fydd Cyllideb flynyddol Llywodraeth San Steffan, sy'n cael ei chyhoeddi ddydd Mercher, yn cynnwys manylion am hwb hydrogen yng Nghaergybi, mwy o arian ar gyfer tri Chytundeb Dinas a Thwf ac arian i gyllido safle ar gyfer y diwydiant rheilffordd yn y de.
Yn ôl y canghellor Rishi Sunak fe fydd y cyhoeddiad yn helpu Cymru i "baratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol mwy gwyrdd".
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn aros i weld ai arian newydd yw'r arian hyn.
Mae disgwyl i Mr Sunak hefyd amlinellu cyflwr economi'r DU, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer trethu a gwariant, a hefyd rhoi awgrym o berfformiad yr economi yn y dyfodol.
Ddydd Mawrth fe fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb hi, gyda £682m eisoes wedi ei glustnodi yn bennaf ar gyfer cefnogi'r gwasanaeth iechyd a'r awdurdodau lleol.
Ddydd Mercher, mae disgwyl i Mr Sunak gyhoeddi £4.8m ar gyfer cynllun peilot hydrogen yng Nghaergybi. Y gobaith yw y bydd y safle yn cynhyrchu ynni adnewyddol i ddefnyddio mewn lorïau a cherbydau trymion.
Dywed y Trysorlys y bydd y cynllun yn helpu lleihau'r carbon sy'n cael ei gynhyrchu ar gyfer trafnidiaeth, fel rhan o gynllun ehangach i gyrraedd lefel carbon sero erbyn 2050.
Honnai Llywodraeth y DU fod gan y cynllun y potensial i greu hyd at 30 o swyddi gwyrdd ac o sgiliau uchel, gan gefnogi 500 o swyddi eraill yn anuniongyrchol.
Fe fydd y gyllideb hefyd yn cyflymu'r broses o sicrhau £58.7m dros y pum mlynedd nesaf ar gyfer tri chynllun 'Dinas a Thwf' ym Mae Abertawe, gogledd Cymru a chanolbarth Cymru.
Mae disgwyl i'r Trysorlys gyhoeddi y bydd Cynllun Bae Abertawe yn derbyn £5.4m yn ychwanegol bob blwyddyn am gyfnod o saith mlynedd.
Fe fydd cynllun Gogledd Cymru yn derbyn £4.4m yn fwy bob blwyddyn am gyfnod o naw blynedd gyda Chytundeb Canolbarth Cymru yn derbyn £1.8m yn ychwanegol bob blwyddyn am gyfnod o 10 mlynedd.
Fe fydd y canghellor hefyd yn cyhoeddi buddsoddiad o £30m ar gyfer safle cynnal profion a datblygu peiriannau rheilffordd yn ardal Onllwyn yng Nghwm Tawe.
'Swyddi da o sgiliau uchel'
Mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif y bydd y cynllun ar y safle glo brig Nant Helen yn costio tua £150m.
Dywed y Trysorlys y byddant yn cyfrannu grantiau cyfatebol hyd at £30m.
Fe fydd gweddill y £128m yn dod o Lywodraeth Cymru a buddsoddiadau gan y sector preifat.
"Fe fydd y mesurau hyn yn helpu Cymru baratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol gwyrdd," meddai Mr Sunak, "gan greu swyddi da o sgiliau uchel, ac adeiladu'r isadeiladwaith sydd angen i hybu twf yn y sectorau allweddol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn aros i weld manylion y cyhoeddiadau hyn i weld a yw unrhyw ran o'r arian hwn yn arian newydd.
"Nid ydym wedi gweld unrhyw fanylion am y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd, ond croesawn fuddsoddiad ar gyfer y prosiect yma."
Dadansoddiad Sarah Dickens, Gohebydd Economeg BBC Cymru
Mae'r £4.8m a fydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer hwb hydrogen yng Nghaergybi yn helpu datblygu cynlluniau sydd yn yr arfaeth ers dwy flynedd, dan arweiniad Menter Môn, sydd hefyd yn rhan o'r cynllun ynni llanw Morlais.
Y cynllun hirdymor yw cynhyrchu hydrogen gan ddefnyddio trydan o'r llanw. Yn ei dro, byddai'r hydrogen yna'n cael ei ddefnyddio i bweru lorïau a cherbydau eraill.
Mae'r Canolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn enghraifft arall o ddatblygu diwydiant sgiliau uchel newydd o un hen.
Onllwyn oedd calon meysydd glo'r de gyda phyllau lleol yn cyflenwi golchfa glo ac yn fwy diweddar safle glo brig Nant Helen. Mae Llywodraeth Cymru, dau awdurdod lleol a nawr llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn adnoddau profi ac ymchwil, gan gynnwys trac cyflymder uchel. Mae disgwyl' i'r gwaith ddechrau eleni.
O ran y cytundebau dinas, mae cael arian gan y Trysorlys yn gynt yn golygu bod modd symud cynlluniau yn eu blaenau a lleihau'r symiau mae angen eu benthyca ar gyfer buddsoddiadau ar raddfa fawr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020