Y DU ac Iwerddon i wneud cais i gynnal Cwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
stadiwm
Disgrifiad o’r llun,

Byddai Stadiwm Principality yn rhan o'r cais

Mewn datganiad ar y cyd mae cymdeithasau pêl-droed Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon wedi dweud y byddan nhw'n cefnogi cais i gynnal Cwpan y Byd yn 2030.

Daw'r datganiad wedi i brif weinidog y DU, Boris Johnson, ddweud fod "yr amser yn iawn" i wneud cais ar y cyd ar gyfer y gystadleuaeth, a bydd ei lywodraeth yn clustnodi £2.8m i ddechrau'r broses.

Bydd astudiaeth yn edrych ar gais posib cyn i'r broses ffurfiol ddechrau yn 2022.

Yn eu datganiad ar y cyd dywedodd y pum cymdeithas bêl-droed: "Mae cymdeithasau a'u partneriaid llywodraethol wrth eu bodd bod llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gefnogi cais pum cymdeithas i gynnal Cwpan y Byd FIFA yn 2030.

"Byddai cynnal Cwpan y Byd yn gyfle anhygoel i greu buddion sylweddol i'n cenhedloedd.

"Os fydd penderfyniad i wneud cais am y gystadleuaeth, rydym yn edrych ymlaen o gyflwyno'n cynigion i FIFA a'r gymuned bêl-droed fyd eang yn ehangach."

Bydd Cwpan y Byd 2022 yn cael ei chynnal yn Qatar, gan fynd i'r Unol Daleithiau, Canada a Mecsico yn 2026.

O 2026 ymlaen bydd 48 tîm yn rhan o'r gystadleuaeth, gan ei gwneud yn anoddach i un wlad ei chynnal.

Mae disgwyl cais ar y cyd gan Chile, Ariannin, Paragwai ac Wrwgwai ar gyfer 2030, a deellir bod Sbaen, Portiwgal a Morocco hefyd yn ystyried cais ar y cyd.